Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Tanio'r dychynyg wrth i ddisglblion ysgol gynllunio ffagl Olympaidd

Ymunodd disgyblion o ysgolion yn Llandudno a Chyffordd Llandudno yn ysbryd y Gemau Olympaidd drwy gymryd rhan mewn cystadleuaeth arlunio a drefnwyd gan Lywodraeth Cymru i gynllunio ffagl newydd sy’n adlewyrchu’r ardal.
Dydd Iau 28 Mehefin 2012

Dewiswyd gwaith gan Holly Bonser o Ysgol Bodafon, Lee Jamie Bradley o Ysgol Tudno a Daniel Myles, disgybl yn Ysgol Morfa Rhianedd, fel y tri darn buddugol. Cafodd eu cynigion eu cyfuno’n un wedyn a gwnaed model o’r gwaith gan fyfyrwyr o Goleg Llandrillo.

Datguddiwyd y ffagl yn swyddfa Llywodraeth Cymru yng Nghyffordd Llandudno ddydd Iau gan y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd, Alun Davies.

Roedd cyfle hefyd i weld y ffagl Olympaidd a ddefnyddiwyd gan Elin Owen, un o gludwyr y fflam, a fu’n cario ffagl ar Reilffordd Ffestiniog.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd, Alun Davies:

"Roedd yn bleser i mi gael datguddio model y ffagl Olympaidd yn swyddfa Llywodraeth Cymru yng Nghyffordd Llandudno. Mae’n amlwg o’r arlunwaith sydd yn cael ei arddangos bod hon wedi bod yn gystadleuaeth y mae’r disgyblion wir wedi mwynhau bod yn rhan ohoni.

"Rwyf hefyd wrth fy modd yn cael gweld y gwaith trawiadol y mae myfyrwyr o Goleg Llandrillo wedi ei wneud wrth greu’r ffagl. Dylai’r disgyblion a myfyrwyr y coleg fod yn falch iawn o’u hunain.

"Mae’r gystadleuaeth yn parhau â’r cysylltiadau cryfion y mae swyddfa Llywodraeth Cymru yng Nghyffordd Llandudno wedi eu meithrin gydag ysgolion a cholegau, ac yn parhau â’r gwaith caled o ymgysylltu â phobl ifanc yn y Gogledd."

Dywedodd y Gweinidog Chwaraeon Huw Lewis:

"Mae disgyblion o ysgolion yn Llandudno a Chyffordd Llandudno yn bendant wedi ymgorffori ysbryd y Gemau drwy’r gystadleuaeth hon.

"Roedd yn wych gweld miloedd o bobl ar ochr y ffordd wrth i’r ffagl Olympaidd deithio ledled Cymru ac mae’n dangos cymaint y mae pobl yn edrych ‘mlaen at y Gemau Olympaidd. Mae’r prosiect hwn wedi parhau â’r teimlad da sydd ynghlwm â’r Gemau."

Yn ôl Michael Jervis, Pennaeth Adeiladu Grŵp Llandrillo-Menai Rhos:

"Rydym wrth ein boddau o fod ynghlwm â’r fenter bwysig hon i hybu’r Gemau Olympaidd. Roedd safon y gwaith a gynhyrchwyd gan yr ysgolion yn uchel gyda’r canlyniad bod y tiwtoriaid yn trafod yn hir cyn penderfynu ar yr enillwyr. Mae’r staff a’r myfyrwyr yn y Coleg wedi mwynhau gwneud y ffagl yn fawr iawn, yn arbennig oherwydd y dylanwadau lleol sydd wedi eu cynnwys yn y cynlluniau gwreiddiol."

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Gemau 2012

Tagiau

Diwylliant a chwaraeon 28 Mehefin 2012 Gemau olympaidd 2012 Y Gogledd
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i