Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Terfyn o 30 disgybl mewn dosbarthiadau cynradd yng Nghymru wedi’i sicrhau

Mae ffigurau sydd wedi’u cyhoeddi heddiw yn dangos bod bron pob disgybl sydd o oedran cynradd a babanod yng Nghymru yn parhau i fanteisio ar ddosbarthiadau lle mae 30 o ddisgyblion neu lai.
Dydd Mercher 26 Tachwedd 2008

Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog dros Addysg:

Rwy’n siŵr bod rhieni ac athrawon yn cefnogi ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cynulliad Cymru i ddosbarthiadau llai o faint a byddant yn croesawu’r ffigurau newydd rhagorol hyn.

Ers 2001, mae pob dosbarth babanod wedi gorfod glynu at y terfyn o 30 disgybl neu lai mewn dosbarth. Ar ôl ystyried yr eithriadau a ganiatawyd o dan y gyfraith, gwnaeth yr ymarfer i gyfrif maint dosbarthiadau ym mis Medi 2008  ddangos mai dim ond 15 o’r 3991 dosbarth babanod yng Nghymru oedd â mwy na 30 disgybl.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gweithio gyda’r awdurdodau lleol ac ysgolion i sicrhau bod y 15 dosbarth yn cydymffurfio â’r terfyn deddfwriaethol erbyn dechrau’r tymor ysgol nesaf.

Mae gan Lywodraeth Cynulliad Cymru darged hefyd o sicrhau bod dosbarthiadau iau yn cynnwys 30 disgybl neu lai. Ar adeg y cyfrif, yr oedd gan 3.7% o’r dosbarthiadau iau fwy na 30 disgybl. Mae hyn yn cymharu â 25% ym 1999 a 3% yn 2007.

Dywedodd Jane Hutt:

Y mae’n galonogol i weld bod y mwyafrif o ddisgyblion iau mewn dosbarthiadau lle mae 30 disgybl neu lai ond bydd angen i ysgolion ac awdurdodau lleol ailedrych ar yr angen i sicrhau bod y dosbarthiadau mawr yma’n cael eu diddymu.

Dros y blynyddoedd nesaf bydd cyflwyno’r Cyfnod Sylfaen yn galluogi plant sydd o oedran cynradd a babanod i elwa hyd yn oed yn fwy ar waith gyda grwpiau llai a rhoi sylw unigol i ddisgyblion. Rydym yn cydnabod bod ein dysgwyr ieuengaf yn haeddu’r dechrau gorau posibl i’w haddysg.

26 Tachwedd 2008

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Addysg a sgiliau

Tagiau

Addysg a sgiliau 26 Tachwedd 2008
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i