Yr oedd y canlyniadau dros dro a gyhoeddwyd ym mis Medi yn dangos bod cynnydd da wedi’i wneud yn erbyn y dangosyddion perfformiad allweddol ar gyfer arholiadau allanol, ond ar ôl gwirio’r data gwelwyd bod y canlyniadau hyd yn oed yn well.
Dywedodd Jane Hutt:
Mae’r canlyniadau hyn yn tanlinellu ymhellach y ffaith bod addysg yng Nghymru yn gwella’n aruthrol, mae ein polisïau arloesol ni yn dechrau dwyn ffrwyth ac mae ein pobl ifanc yn cyrraedd eu llawn botensial.
Mae’r ystadegau a ryddhawyd heddiw yn diweddaru’r canlyniadau dros dro a gyhoeddwyd ym mis Medi yn dilyn ymarfer dilysu a gynhaliwyd gyda’r ysgolion. Yr oedd y canlyniadau terfynol yn dangos bod:
- Nifer y disgyblion a oedd wedi cyrraedd Terfyn Lefel 2 gan gynnwys TGAU gradd C neu uwch ar gyfer Cymraeg iaith gyntaf neu Saesneg a mathemateg wedi cynyddu i 45.6% sydd yn 1.2 pwynt canran yn uwch o’i gymharu â 2007.
- Nifer y disgyblion a oedd wedi cyrraedd Terfyn Lefel 2 (sy’n cyfateb i 5 TGAU gradd A* - C) wedi cynyddu 3 phwynt canran o’i gymharu â 2007 wrth i 58 y cant o ddisgyblion 15 oed fodloni neu fynd y tu hwnt i’r terfyn.
- Nifer y disgyblion 17 oed a oedd wedi cyrraedd Terfyn Lefel 3 (sy’n cyfateb i 2 Safon Uwch) hefyd wedi cynyddu i 94.2%.
Dywedodd y Gweinidog:
Eleni, yr ydym wedi dangos bod ein polisïau yn cael effaith bositif ar ganlyniadau ein pobl ifanc. Bellach mae’n rhaid i ni ganolbwyntio ar weithio mewn partneriaeth er mwyn cynnal y cynnydd positif hwn.
26 Tachwedd 2008











