Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Fframwaith newydd ar gyfer codi arian i Addysg Uwch

Cyhoeddwyd y bydd cynllun yn cael ei sefydlu i roi hwb gwerthfawr i sector Addysg Uwch (AU) yng Nghymru trwy helpu Prifysgolion Cymru i estyn eu hymdrechion codi arian ac ysgogi rhagor o fuddsoddi preifat mewn addysg bellach.
Dydd Mawrth 23 Rhagfyr 2008

Yn dilyn lansio cynllun tebyg yn Lloegr yn gynharach eleni, mae’r Gweinidog Addysg, Jane Hutt, wedi hysbysu Is-gangellorion Prifysgolion Cymru o fwriad Llywodraeth Cynulliad Cymru i gydweithio â Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru a chynrychiolwyr eraill o’r sector AU i ddatblygu cynllun codi arian i Gymru.

Bydd y cynllun yn annog prifysgolion Cymru i gynyddu ac ehangu eu gallu i godi arian ac ysgogi cynfyfyrwyr ac unigolion eraill i roi arian yn wirfoddol trwy warantu y bydd y llywodraeth yn darparu cyllid cyfatebol ychwanegol.

Dywedodd Jane Hutt:

Rydym yn cydweithio gyda’r Cyngor Cyllido Addysg uwch a’r sector addysg uwch ehangach yng Nghymru i ddatblygu fframwaith a fydd yn cynyddu gallu holl brifysgolion Cymru i godi arian.

Rwy’n dymuno gweld system Addysg Uwch fywiog a llwyddiannus yma yng Nghymru a bydd y cynllun hwn yn sicrhau nad yw prifysgolion Cymru dan anfantais yng nghyd-destun ehangach y DU.

23 Rhagfyr 2008

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Addysg a sgiliau

Tagiau

Addysg a sgiliau 23 Rhagfyr 2008
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i