Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Cymru yn arwain y ffordd i helpu i wneud hawliau plant yn realiti

Mae Jane Hutt, y Gweinidog Plant wedi cyhoeddi gwasanaeth Eirioli a Chynghori Cenedlaethol i blant a phobl ifanc, gyda chymorth £459,850 o gyllid newydd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Dydd Gwener 20 Tachwedd 2009
Plant yn dathlu'r 20fed pen-blwydd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.

Bydd y llinell gymorth y gyntaf o’i bath yn y DU i’w rhoi ar waith yn genedlaethol, a bydd yn rhoi cyfle i blant a phobl ifanc dderbyn cymorth ar faterion sy’n bwysig iddynt, os ydynt yn teimlo nad oes neb yn gwrando arnynt neu nad ydynt yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt.  Bydd y llinell gymorth ar gael drwy linellau ffôn am ddim, tecstio, e-bostio a negeseuon gwib am ddim.

Bydd y Gwasanaeth Eirioli a Chynghori yn cydweithio â gwasanaethau a llinellau cymorth eraill sy’n cynnig cyngor, megis Childline, sydd â swyddogaeth ddiogelu amlwg, ac yn eu hategu.

Daw y cyhoeddiad ar 20fed pen-blwydd  Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.  Ar ddathliad i nodi pen-blwydd y Confensiwn, lansiodd y Gweinidog hefyd Gynllun Gweithredu newydd o bwys ‘Gwneud Pethau’n Iawn’ sy’n amlinellu sut y bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cymryd camau o bwys i wneud hawliau plant a phobl ifanc yn realiti dros y 5 mlynedd nesaf yng Nghymru.

Mae prif gamau’r cynllun yn cynnwys:

  • Mynd i’r afael â chanfyddiadau negyddol o blant a phobl ifanc, yn arbennig ar y cyfryngau – trwy hyrwyddo llwyddiannau plant a phobl ifanc a dathlu eu llwyddiannau
  • Gweithio i ddileu pob mathau o fwlio – trwy ganllawiau gwrth-fwlio newydd a hybu mentrau megis yr wythnos gwrth-fwlio
  • Sicrhau bod gan bob plentyn yr hawl i chwarae – trwy ddatblygu polisi chwarae newydd a rhoi mwy o gyfleoedd i blant a phobl ifanc gymryd rhan mewn cerddoriaeth, y celfyddydau a chwaraeon

Ychwanegodd Rhodri Morgan y Prif Weinidog, a oedd hefyd yn bresennol yn y digwyddiad i ddathlu ugeinfed pen-blwydd y Confensiwn:

“Mae fy Llywodraeth wedi gwneud yn glir ein bod yn benderfynol o sicrhau y gall ein plant a’n pobl ifanc fwynhau a defnyddio eu hawliau.

“Rydym am sicrhau y gall blant a phobl ifanc gael cymorth pan fyddant ei angen gan bobl all eu cefnogi a’u cynrychioli hwy a’u safbwyntiau.

“Rydym yn gweithio’n galed i helpu i blant a phobl ifanc Cymru fyw bywydau iachach, gan fwynhau a chyflawni mwy.  Rwy’n optimistaidd y bydd y polisïau a’r rhaglenni sydd gennym yn helpu i gyflawni ein hymrwymiadau i blant a phobl ifanc Cymru.”

Meddai Jane Hutt:

“Yng Nghymru, rydym yn defnyddio Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn fel sylfaen i’n holl waith gyda ac ar gyfer plant a phobl ifanc.  Rydym wedi ymrwymo i roi sail gyfreithiol i’r gwaith hwn, a chyhoeddodd y Prif Weinidog yn ddiweddar ein bwriad i edrych mwy ar y posibilrwydd o gyflwyno Mesur i sefydlu egwyddorion y Confensiwn yn ddeddf ar ran plant Cymru.

“Mae’n rhaid inni gefnogi plant a phobl ifanc trwy amseroedd anodd pan fydd angen mwy o gymorth arnynt efallai.  Mae Erthyglau 12 ac 13 y Confensiwn yn datgan bod gan blant yr hawl i gael rhywun i wrando ar eu lleisiau, ac i dderbyn a rhannu gwybodaeth.

“Mae’r gwasanaeth eirioli a chynghori yr wyf wedi’i gyhoeddi heddiw yn cefnogi plant a phobl ifanc i wneud hynny.  Bydd yn fwy na gwasanaeth gwybodaeth.  Bydd yn rhoi cyngor ac yn dod o hyd i wasanaethau i blant a phobl ifanc i’w helpu ym mhob math o sefyllfa.  Mae’n golygu rhoi cymorth a chefnogaeth ymarferol iddynt pan fydd pethau’n mynd yn anodd, a phan fyddant yn teimlo nad ydynt yn cael yr help y maent ei angen neu sydd ganddynt yr hawl iddo.”

20 Tachwedd 2009

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Addysg a sgiliau 20 Tachwedd 2009
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i