Yn y digwyddiad i lansio'r ysgoloriaeth newydd, cadarnhaodd Mr Andrews ymrwymiad Llywodraeth Cynulliad Cymru i sefydlu’r Coleg Ffederal yng Nghymru.
Meddai Leighton Andrews:
"Yn Cymru'n Un, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymrwymo i sefydlu 'Rhwydwaith Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg - y Coleg Ffederal – er mwyn sicrhau darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn ein prifysgolion.
"Rydyn ni wedi parhau â'r ymrwymiad hwn i ddatblygu addysg uwch cyfrwng Cymraeg yn Er Mwyn Ein Dyfodol, ein cynllun gweithredu strategol ar gyfer addysg uwch yng Nghymru.
"Rydyn ni am alluogi dysgwyr i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg mewn ystod ehangach o raglenni a lleoliadau yng Nghymru. Mae hyn yn gysylltiedig â'n nod ehangach i hyrwyddo mwy o gydweithio rhwng darparwyr ar bob lefel er mwyn diwallu anghenion dysgwyr yn well.
“Bydd y dull strategol, sy'n cael ei arwain gan y Coleg Ffederal, yn helpu i sicrhau cyfiawnder cymdeithasol ar gyfer y rheini sydd am ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hefyd yn cynnig manteision economaidd posibl drwy roi mwy o gyfle i ddatblygu'r gweithlu, a chefnogi cyfleoedd busnes sy'n ecsbloetio'r potensial y mae amgylchedd dwyieithog yn ei gynnig.
"Mae'r ysgoloriaethau sy'n cael eu lansio heddiw yn rhoi cyfle gwych i ennyn diddordeb rhagor o fyfyrwyr mewn addysg uwch cyfrwng Cymraeg, a dw i nawr yn edrych ymlaen at weld y Coleg Ffederal yn cael ei roi ar waith yn llawn yn hydref 2011."











