Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Leighton Andrews yn croesawu ysgoloriaeth cyfrwng Cymraeg newydd

Croesawodd y Gweinidog dros Addysg, Leighton Andrews, lansiad ysgoloriaeth cyfrwng Cymraeg newydd a fydd yn helpu i ennyn diddordeb rhagor o fyfyrwyr mewn addysg uwch cyfrwng Cymraeg.
Dydd Mawrth 02 Tachwedd 2010

Yn y digwyddiad i lansio'r ysgoloriaeth newydd, cadarnhaodd Mr Andrews ymrwymiad Llywodraeth Cynulliad Cymru i sefydlu’r Coleg Ffederal yng Nghymru.  

Meddai Leighton Andrews:  

"Yn Cymru'n Un, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymrwymo i sefydlu 'Rhwydwaith Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg - y Coleg Ffederal  – er mwyn sicrhau darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn ein prifysgolion.

"Rydyn ni wedi parhau â'r ymrwymiad hwn i ddatblygu addysg uwch cyfrwng Cymraeg yn Er Mwyn Ein Dyfodol, ein cynllun gweithredu strategol ar gyfer addysg uwch yng Nghymru.

"Rydyn ni am alluogi dysgwyr i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg mewn ystod ehangach o raglenni a lleoliadau yng Nghymru.  Mae hyn yn gysylltiedig â'n nod ehangach i hyrwyddo mwy o gydweithio rhwng darparwyr ar bob lefel er mwyn diwallu anghenion dysgwyr yn well.

“Bydd y dull strategol, sy'n cael ei arwain gan y Coleg Ffederal, yn helpu i sicrhau cyfiawnder cymdeithasol ar gyfer y rheini sydd am ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.   Mae hefyd yn cynnig manteision economaidd posibl drwy roi mwy o gyfle i ddatblygu'r gweithlu, a chefnogi cyfleoedd busnes sy'n ecsbloetio'r potensial y mae amgylchedd dwyieithog yn ei gynnig.

"Mae'r ysgoloriaethau sy'n cael eu lansio heddiw yn rhoi cyfle gwych i ennyn diddordeb rhagor o fyfyrwyr mewn addysg uwch cyfrwng Cymraeg, a dw i nawr yn edrych ymlaen at weld y Coleg Ffederal yn cael ei roi ar waith yn llawn yn hydref 2011."

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Addysg a sgiliau 02 Tachwedd 2010 Prifysgolion a cholegau Yr Iaith Gymraeg Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Gorffennaf 2012
Ll M M I G S S
<< Meh   Aws >>
            1
2 3 4 5 6 7 8
9 10 11 12 13 14 15
16 17 18 19 20 21 22
23 24 25 26 27 28 29
30 31          
I'n dilyn ni trowch i