Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Y Gweinidog yn dweud "Rhaid i bob un ohonon ni chwarae ein rhan yn yr ymdrech i gael gwared â bwlio"

Heddiw, nododd y Gweinidog dros Addysg, Leighton Andrews, ddechrau Wythnos Gwrth-fwlio drwy bwysleisio pwysigrwydd codi ymwybyddiaeth o'r materion yn ymwneud â bwlio a sut y gallwn ni helpu'r rheini sy'n dioddef.
Dydd Mawrth 16 Tachwedd 2010

Mae Wythnos Gwrth-fwlio yn rhoi cyfle gwych i Lywodraeth Cynulliad Cymru gydweithio â Rhwydwaith Gwrth-fwlio Cymru a sefydliadau fel NSPCC Cymru i helpu'r rheini y mae bwlio'n effeithio arnyn nhw.

Yn ystod yr wythnos, bydd ysgolion a sefydliadau ledled Cymru yn cymryd rhan mewn gweithgareddau i helpu plant a phobl ifanc i gydnabod yr effeithiau andwyol y gall bwlio eu cael ac i helpu'r rheini sy'n cael eu bwlio.

Meddai Leighton Andrews:

"Yn anffodus, mae gormod o blant a phobl ifanc yng Nghymru yn dal i ddioddef oherwydd bwlis. Mae hyn yn annerbyniol.

"Yn aml, mae pobl sy'n cael eu bwlio mewn unrhyw ffordd yn colli hyder ac yn ofni dweud wrth rywun. Felly, mae'n hanfodol bod gan weithwyr addysg proffesiynol y sgiliau iawn i gydnabod bod plentyn yn cael ei fwlio er mwyn iddyn nhw allu datrys y broblem a chyflwyno mesurau i atal hynny rhag digwydd eto.

"Mae Wythnos Gwrth-fwlio yn gyfle i weithwyr proffesiynol, rhieni a disgyblion rannu arfer gorau a dysgu oddi wrth brofiadau ei gilydd."

Yr wythnos hon, bydd plant ledled Cymru yn gwneud eu rhan i ledaenu'r neges wrth-fwlio.

Un o'r ysgolion sy'n cymryd rhan yw Ysgol yr Eglwys yng Nghymru y Faenol ym Mangor, lle cafodd Sian Thorpe, sy'n ddeg oed, ei hysbrydoli i ysgrifennu cerdd bwerus ar ôl i un o'i ffrindiau gael ei fwlio.

O weld ei ffrind yn mynd drwy gyfnod anodd, daeth Sian yn ymwybodol o'r anhapusrwydd y mae bwlio yn ei achosi, felly yn ogystal ag ysgrifennu'r gerdd creodd flychau gwrth-fwlio lle gallai disgyblion adael nodyn i roi gwybod i athrawon am unrhyw achosion o fwlio yn yr ysgol.

Mae Scott Nelson a'i ffrindiau yn Ysgol Gyfun y Barri hefyd yn cymryd rhan yn Wythnos Gwrth-fwlio gyda'u 'Criw Gwrth-fwlio'.

Gyda chymorth athrawon, mae'r criw yn cael ei hyfforddi i helpu eu ffrindiau iau drwy wrando ar eu problemau, datrys gwrthdaro a nodi achosion y mae angen i oedolion ymyrryd ynddyn nhw.

Ychwanegodd Leighton Andrews:

"Mae clywed am y prosiectau a'r gwaith sy'n cael ei wneud gan ddisgyblion mewn ysgolion i fynd i'r afael â bwlio yn ysbrydoliaeth. Dyma nod Wythnos Gwrth-fwlio, a dw i'n gobeithio bod Sian a Scott yn annog pobl ifanc eraill i gael gwared â bwlio yn eu hysgolion."

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Bwlio

Tagiau

Addysg a sgiliau 16 Tachwedd 2010 Ysgolion Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i