Ysgol Nant-y-Coed ac Ysgol Maelgwn yw’r ysgolion cyntaf i ymweld â’r adeilad newydd yng nghyffordd Llandudno lle buont yn dysgu am sut y caiff Cymru ei llywodraethu.
Yn ystod eu hymweliad, rhoddodd staff Llywodraeth Cynulliad Cymru gipolwg i’r disgyblion o’r sefydliad gan esbonio sut yr oeddent yn gweithio.
Fe’u rhannwyd yn grwpiau wedyn a gofyn iddynt pa adrannau oedd bwysicach iddynt a faint o arian y byddent yn ei roi i bob portffolio petai nhw yn eu rheoli.
Dywedodd Arwel Roberts, pennaeth Ysgol Nant-y-Coed:
“Mae’r plant wedi mwynhau ymweld â’r adeilad newydd yn fawr ac mae’n fanteisiol iawn i ni bod yr adeilad mor agos.
“Mae’n gyfle gwych i’n disgyblion fedru gweld y gwaith y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud yn eu hardal leol.
“Rydym yn credu’n gryf ei bod hi’n hanfodol bod pobl ifanc yn gwybod ac yn dysgu am sut y caiff Cymru ei llywodraethu.”
Dywedodd Llŷr Gilmour Jones, pennaeth Ysgol Maelgwn:
“Yr oedd yr ymweliad a’r ymarfer ar y gyllideb yn ffyrdd gwych o ddysgu plant am gyfrifoldebau Llywodraeth Cynulliad Cymru.
“Disgyblion ysgol heddiw yw ein dyfodol ac mae’n hanfodol bwysig eu bod yn cael y cyfle i sylweddoli pa waith sy’n cael ei wneud gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn y swyddfa newydd yng Nghyffordd Llandudno.”
Dywedodd Leighton Andrews, y Gweinidog dros Addysg:
“Rwy’n falch iawn mai disgyblion o’r ddwy ysgol gynradd yn y dref oedd y cyntaf i ymweld ag adeilad newydd Cyffordd Llandudno a dysgu am Lywodraeth Cynulliad Cymru.
“Mae’r adeilad yn adnodd addysg a gwybodaeth werthfawr ar gyfer pob un o bob oed yng Ngogledd Cymru.
“Mae’n un o fanteision y swyddfa newydd fod plant ysgol yn cael cyfle i ymweld â’r adeilad a deall y materion sy’n effeithio ar eu bywyd a hefyd i ddysgu mwy am y bobl sy’n gwneud y penderfyniadau hynny.”
Mae’r ddwy ysgol eisoes wedi datblygu cysylltiad agos â Llywodraeth Cynulliad Cymru oherwydd eu bod wedi ychwanegu eitemau ar gyfer y Capsiwl Amser sydd wedi’i gladdu yn y dderbynfa yn yr adeilad newydd.
Bydd y capsiwl yn parhau o dan y ddaear am yr 50 mlynedd nesaf cyn ei godi yn 2060.











