Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Pobl ifanc yn trafod materion mawr Ewrop ym Mae Caerdydd

Heddiw bydd myfyrwyr o bob cwr o Gymru yn ymuno â dau fyfyriwr o Silesia, Gwlad Pwyl, i drafod materion mawr Ewrop yn ffug gyfarfod Cyngor yr Undeb Ewropeaidd (UE) ym Mae Caerdydd.
Dydd Mercher 14 Medi 2011
Dyma bedwerydd Ffug Gyngor yr UE i gael ei drefnu gan Lywodraeth Cymru, ac eleni bydd myfyrwyr 16-18 oed o 27 o ysgolion yng Nghymru yn cymryd rhan.
Dyma bedwerydd Ffug Gyngor yr UE i gael ei drefnu gan Lywodraeth Cymru, ac eleni bydd myfyrwyr 16-18 oed o 27 o ysgolion yng Nghymru yn cymryd rhan.

Dyma bedwerydd Ffug Gyngor yr UE i gael ei drefnu gan Lywodraeth Cymru, ac eleni bydd myfyrwyr 16-18 oed o 27 o ysgolion yng Nghymru yn cymryd rhan.

Bydd cyfle iddynt drafod a phleidleisio ar ddau bwnc llosg sy'n effeithio ar yr UE, sef y Polisi Amaethyddol Cyffredinol ac Ardal yr Ewro, yn ystod efelychiad o un o gyfarfodydd Cyngor yr UE.

Bydd yr ysgolion yn cynrychioli pob un o'r 27 Aelod-wladwriaeth, gyda thimau o ddau fyfyriwr yn chwarae rôl Gweinidogion Llywodraeth.

Yr ysgol sy'n weddill fydd yn cynrychioli'r Comisiwn Ewropeaidd.
 
Meddai Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg, sy'n gyfrifol am y digwyddiad:

"Mae'r digwyddiad hwn yn gyfle i'r cynrychiolwyr ifanc ystyried y materion sy'n effeithio ar Gymru a'r UE, a dod i ddeall sut mae'r system yn gweithio.

"Mae'n gyfle i ddatblygu sgiliau trafod a diplomyddiaeth i'w defnyddio gydol oes ac rwy'n si?r y bydd y bobl ifanc yn cael manteision mawr o'r profiad hwn."

Dywedodd Jonathan Schele, cynrychiolydd Comisiwn Ewropeaidd y Deyrnas Unedig a fydd yn siarad yn ystod y digwyddiad:

"Mae'n anrhydedd i gymryd rhan yn y fenter cyffroes yma, sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn yma yng Nghymru. Mae'n wych i weld ein cenedlaethau i ddod yn dysgu mwy a chymryd rhan yn ddemocratiaeth Ewropeaeth."

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Gwefannau

Comisiwn Ewropeaidd

Tagiau

Addysg a sgiliau 14 Medi 2011 Y De-ddwyrain
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i