Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Y Gweinidog Addysg yn cyhoeddi bod adolygiad i’w gynnal o’r farchnad cymwysterau yng Nghymru

Yn dilyn adroddiadau a ryddhawyd gan bapur newydd y Daily Telegraph am seminarau arholi a gynhaliwyd gan y byrddau arholi, mae’r Gweinidog Addysg wedi cyhoeddi bod adolygiad i’w gynnal o strwythur y farchnad cymwysterau cyffredinol yng Nghymru.
Dydd Mercher 14 Rhagfyr 2011

Bydd yr adolygiad yn edrych ar yr effaith y mae strwythur y farchnad yn ei chael ar safonau mewn cymwysterau TGAU a Safon Uwch, a bydd yn mynd ati hefyd i asesu pa mor effeithiol yw’r strwythur hwnnw – gan nodi’r opsiynau ar gyfer ei newid a chan gyflwyno argymhellion.

Wrth gyhoeddi’r adolygiad heddiw mewn ymateb i Cwestiwn Ysgrifenedig y Cynulliad, dywedodd Leighton Andrews:

"A minnau’n Weinidog Addysg, fy nghyfrifoldeb i yw rheoleiddio cymwysterau yng Nghymru, ac rwy’n bryderus iawn am effaith yr honiadau diweddar ar ddiogelwch arholiadau ac ar y ffydd sydd gan y cyhoedd yn ein cymwysterau TGAU a Safon Uwch.

"Y prif beth rwy’n awyddus i’w sicrhau yw bod y strwythur hwn yn diwallu anghenion ein disgyblion ac yn cyfrannu at wella safonau. Bydd yr adolygiad hwn yn asesu pa mor dda y mae’r system yn gweithio ac a yw hynny’n effeithio ar safonau. Bydd hefyd yn ystyried modelau eraill posibl ac yn eu cymharu â’r hyn sydd i’w weld ar lefel ryngwladol.

"Bydd yr Adolygiad yn cyflwyno adroddiad am ei argymhellion ymhen tri mis. Yn y cyfamser, bydd gennym gryn ddiddordeb yng nghanfyddiadau’r ymchwiliad y mae Ofqual yn ei gynnal, a byddwn yn anelu at sicrhau y bydd unrhyw gamau y bydd gofyn i CBAC eu cymryd o ran ei waith yn Lloegr hefyd yn cael eu hystyried yn llawn yng nghyd-destun ei waith yma yng Nghymru."

Mae’r Gweinidog wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg yn Lloegr, y Gwir Anrhydeddus Michael Gove ac at Glenys Stacey, Prif Weithredwr Ofqual, yn eu hysbysu am yr Adolygiad ac mae wedi gofyn iddynt roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddo am unrhyw ddatblygiadau o ran yr honiadau yn erbyn cyrff dyfarnu, gan gynnwys CBAC, sy’n dyfarnu cymwysterau TGAU a Safon Uwch i ymgeiswyr yng Nghymru.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Addysg a sgiliau 14 Rhagfyr 2011 Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i