Cafodd yr ysgol gynradd arloesol hon, sef yr ysgol gyntaf yng Nghymru a Lloegr i dderbyn Tystysgrif Perfformiad Egni A+, £4 miliwn o arian drwy’r Rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif gan Lywodraeth Cymru.
Mae’r ysgol newydd yn cynnwys nifer o nodweddion arbed egni gan gynnwys pedwar tyrbin gwynt i fanteisio ar safle’r ysgol sydd ar dir uchel a nifer o baneli ffotofoltäig a fydd yn trosi golau dydd yn drydan.
Mae mwy o drydan yn cael ei gynhyrchu ar dir yr ysgol neu o fewn yr ysgol na’r hyn y mae’r ysgol ei hun yn ei ddefnyddio felly mae’r hyn sydd dros ben yn cael ei drosglwyddo i’r grid. Mae dŵr glaw hefyd yn cael ei gasglu a’i ddefnyddio yn y toiledau ac mae dros hanner y dŵr sy’n cael ei ddefnyddio gan yr ysgol yn cael ei ailgylchu.
Mae adeiladu ysgol Greenhill wedi bod yn hwb i fusnesau’r ardal hefyd. Bu’r prif gontractwr, Vinci, sydd â’i bencadlys yng Nghaerdydd, yn gweithio gyda nifer o isgontractwyr lleol o Gaerffili, Merthyr, Porth, Aberdâr, Ffynnon Taf, y Bari a Chaerdydd. Crëwyd 22 o swyddi amser llawn o ganlyniad i’r prosiect hefyd.
Bydd y Gweinidog Addysg yn dadorchuddio plac yn hwyrach heddiw i agor yr ysgol yn swyddogol. Bydd hefyd yn cael ei dywys o gwmpas y cyfleusterau a’r ystafelloedd dosbarth newydd.
Dywedodd y Gweinidog:
"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn cael ei addysgu mewn awyrgylch sy’n hybu dysgu ar gyfer yr 21ain ganrif.
"Ym mis Rhagfyr y llynedd, cyhoeddais fuddsoddiad o £1.4 biliwn yn ein hysgolion drwy ein Rhaglen Ysgolion ar gyfer y 21ain Ganrif.
"Mae Ysgol Gynradd Greenhill yn dangos bod y buddsoddiad a wnaed yn arwain at ganlyniadau gwirioneddol ar gyfer ein hysgolion a’n cymunedau.
"Mae’r ysgol hon sy’n cyrraedd safonau o’r radd uchaf nid yn unig yn diwallu anghenion disgyblion ac athrawon ond hefyd yn enghraifft wych o ddatblygiad cynaliadwy ac effeithlon o ran yr egni mae’n ei ddefnyddio – mae cael Tystysgrif Perfformiad Egni A+ yn gamp aruthrol.
"Rydw i’n ffyddiog y caiff y cyfleusterau hyn effaith bellgyrhaeddol ar gyflawniad addysgol y disgyblion ac y byddant yn ysbrydoliaeth o ran yr addysgu a’r dysgu."











