Bydd modd i brosiect QWEST (Ansawdd, Gwaith, Cyflogaeth, Sgiliau a Hyfforddiant), sydd werth £13.4m ac yn cael ei arwain gan Brifysgol Cymru, Casnewydd, barhau am ddwy flynedd ychwanegol, ac ehangu i Ferthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf. Mae eisoes yn gweithio yng Nghaerffili, Blaenau Gwent a Thorfaen.
Mae’r cyllid ychwanegol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru yn golygu bod yr UE yn buddsoddi cyfanswm o £8.5m, sy’n galluogi’r cynllun i helpu mwy o unigolion economaidd anweithgar a di-waith i gael hyfforddiant sydd wedi’i addasu a gwella’u cyfleoedd o ddod o hyd i swydd.
Yn ogystal, drwy bartneriaeth gydag Athrofa Prifysgolion Blaenau’r Cymoedd, bydd modd i bobl gael cyfleoedd dysgu yn y gymuned i’w helpu i ennill y sgiliau a’r profiad sy’n hanfodol i ymuno â’r gweithlu.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Rhaglenni Ewropeaidd, Alun Davies:
“Rydyn ni’n ymrwymedig i gynnig y cymorth a’r hyfforddiant cywir i sicrhau cyflogaeth cynaliadwy i unigolion economaidd anweithgar a di-waith.
“Mae prosiectau’r UE wedi helpu dros 294,000 o unigolion, gyda mwy na 83,000 ohonyn nhw’n cael cymorth i ennill cymwysterau ac oddeutu 35,000 yn cael gwaith. Rwy’n falch ein bod ni wedi gallu cefnogi’r fenter hon gydag arian ychwanegol gan yr UE i sicrhau bod mwy o bobl yn elwa ac yn defnyddio gwasanaethau i wella’u rhagolygon o gael swydd a’u ffyniant yn y dyfodol.”
Mae QWEST yn cynnig gweithgareddau dysgu a datblygu sgiliau am ddim, gan gynnwys profiad gwaith, gwirfoddoli, a helpu i feithrin hyder a hunan-barch i baratoi unigolion yn well ar gyfer gwaith. Maen nhw hefyd yn gallu dilyn rhaglenni Gradd Sylfaen drwy Athrofa Prifysgolion Blaenau’r Cymoedd.
Dywedodd Rheolwr Prosiect QWEST, Lyn Waddington:
“Mae’n newyddion gwych y bydd QWEST yn parhau ac yn ehangu, sy’n ein galluogi i gefnogi mwy o bobl i gael gwaith drwy ddatblygu’u hyder a’u sgiliau yn ehangach fyth, a meithrin partneriaeth well gydag Athrofa Prifysgolion Blaenau’r Cymoedd.
“Dros y misoedd a’r blynyddoedd diwethaf, mae’r prosiect wedi cefnogi cannoedd o bobl, ac rydyn ni’n falch iawn y bydd y gwaith pwysig hwn yn parhau ar adeg lle mae gwir angen cymorth.”











