Mae’r prosiect Gwersi o Auschwitz yn cael ei ariannu drwy Raglen Addysg Ryngwladol Llywodraeth Cymru, ac yn cael ei reoli gan Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost (HET). Mae’n rhoi cyfle i ddysgwyr feithrin a dyfnhau eu dealltwriaeth o’r Holocost drwy raglen strwythuredig ac iddi bedwar cam.
Mae’r prosiect yn cael ei dargedu at bobl ifanc rhwng 16 a 18 oed, ac mae ymweliad ag Auschwitz-Birkenau yng Ngwlad Pwyl yn rhan ganolog ohono, er mwyn i’r bobl ifanc gael mynd i lygad y ffynnon i ddysgu am yr Holocost a sut mae’n berthnasol i ni heddiw.
Wrth gyhoeddi’i benderfyniad, dywedodd y Gweinidog:
“Mewn cymdeithas fyd-eang, mae’n hanfodol bod pobl ifanc yng Nghymru yn deall yn union beth ddigwyddodd yn Auschwitz, ac yn dysgu o wersi’r gorffennol.
“Heddiw, mae goddefgarwch a chynhwysiant mor bwysig ag erioed, felly mae’n bwysig bod myfyrwyr yn ystyried hefyd sut mae gwersi Auschwitz yn berthnasol i’n cymdeithas ni yn y byd modern sydd ohoni.
“Mae’r gwaith y mae’r Ymddiriedolaeth wedi’i wneud yng Nghymru yn ystod y tair blynedd diwethaf wedi creu cryn argraff arna i, a dw i’n falch o fedru cyhoeddi y bydd cynnydd yn y cymorth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei roi i’r prosiect Gwersi o Auschwitz yn ystod y tair blynedd nesaf.”
Dywedodd Karen Pollock MBE, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost:
“Rydyn ni’n hynod falch bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod gwerth ein prosiect Gwersi o Auschwitz. Wrth i’r blynyddoedd fynd heibio, mae’n bwysicach nag erioed bod pobl ifanc yn dysgu am yr Holocost ac yn deall beth ddigwyddodd.”











