Mae’r Gweinidog Addysg a Sgiliau wrthi bellach yn cynnal trafodaethau uniongyrchol gyda’r sefydliadau y mae’r cynigion yn effeithio arnynt. Ac yntau’n un o Is-gangellorion blaenllaw y DU, bydd gan yr Athro Smith yr arbenigedd angenrheidiol i graffu ar yr amryfal gynigion a gaiff eu cyflwyno gan y sefydliadau.
Dywedodd Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg:
“Cyflwynodd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) achos cryf o blaid uno Prifysgol Morgannwg, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd a Phrifysgol Cymru, Casnewydd, a chefais fy argyhoeddi ganddo. Cyhoeddais ym mis Tachwedd ei bod yn fwriad gennyf dderbyn cynigion CCAUC, ar yr amod bod ymgynghori manwl â’r sefydliadau dan sylw. Mae trafodaethau’n cael eu cynnal gyda’r sefydliadau hynny ar hyn o bryd.
“Mae’r profiad helaeth sydd gan yr Athro Smith o’r sector AU, a’r enw da sydd ganddo yn y maes, yn golygu ei fod yn ddelfrydol ar gyfer y rôl hon.
“Ar ôl iddo ymgymryd â nifer o swyddi yn y maes, mae ganddo brofiad eang iawn o’r sector AU. Mae’n Gyn-lywydd ar Universities UK ac, ers 2002, ef yw Is-ganghellor a Phrif Weithredwr Prifysgol Caerwysg.
“Mae ganddo ddealltwriaeth ddofn o’r materion sy’n effeithio at y sector AU ar draws y DU, ond mae, ar yr un pryd, yn ddigon pell oddi wrth y sector yma yng Nghymru i fedru bod yn wrthrychol.”











