Bydd cynrychiolwyr o 19 o sefydliadau, sy’n cynnwys Shelter Cymru, Anabledd Cymru a Chynghrair Cynhalwyr Cymru, yn cyfarfod â’r Gweinidog sydd â chyfrifoldeb am Ddiwygio Lles, Leighton Andrews; Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, Carl Sargeant; Y Gweinidog Tai, Huw Lewis a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Gwenda Thomas.
Mr Andrews fydd yn cadeirio’r cyfarfod ac eglurodd fod heddiw’n gyfle i sefydliadau, sy’n cynrychioli’r bobl y mae’r newidiadau’n fwyaf tebygol o effeithio arnynt, fynegi eu pryderon ynghylch effeithiau’r diwygiadau lles ar rai o’r bobl sydd fwyaf agored i niwed yng Nghymru ac economi Cymru yn gyffredinol.
Dywedodd:
“Bydd y diwygiadau lles sy’n cael eu cynnig gan Lywodraeth y DU yn cael effaith anghymesur ar Gymru o’i chymharu â gweddill y DU.”
“Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ymateb i’r heriau hyn mewn modd blaengar, gan barhau i ddiogelu’r bobl sydd fwyaf agored i niwed a cheisio sicrhau nad yw pobl yn parhau mewn tlodi.”
“Nid ydym yn gwrthwynebu’r egwyddor o ddiwygio lles. Byddem yn croesawu system fudd-daliadau sy’n fwy syml ac yn fwy tryloyw ac sy’n cymell pobl i geisio gwaith. Hoffem hefyd weld system sy’n cynnig cymorth buddiol i unigolion ganfod swyddi ac aros ynddynt.
“Byddai galluogi pobl i weithio yn fuddiol iawn i Gymru a dyna pam rydym yn parhau’n gwbl ymrwymedig i annog pobl i geisio swyddi a’u cefnogi i wneud hynny. Yn wir, rydym wedi ymrwymo i greu miloedd o gyfleoedd gwaith drwy Twf Swyddi Cymru.”
Mynegodd Mr Andrews bryderon Llywodraeth Cymru yn gynharach eleni ynghylch Bil Llywodraeth y DU ar gyfer Diwygio Lles a’r agenda ehangach ynghylch lles.
Sefydlwyd Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Gweinidog ar gyfer Diwygio Lles er mwyn asesu a monitro effaith gronnol diwygiadau lles yng Nghymru a’u heffaith ar bolisïau a gwasanaethau Llywodraeth Cymru.
Cyhoeddwyd canfyddiadau cam cyntaf y gwaith dadansoddi hwn ym mis Chwefror. Daeth yr ymchwil cychwynnol hwn i’r casgliad y bydd unrhyw oblygiadau negyddol sy’n deillio o’r newidiadau yn cael effaith anghymesur o uchel yng Nghymru o’i chymharu â gweddill y DU.











