Mae’r cynllun hwn yn benodol ar gyfer disgyblion sy’n dechrau mewn ysgol uwchradd ac sy’n gymwys i gael cinio am ddim. Mae hefyd ar gyfer disgyblion 11 oed, ar ddechrau’r flwyddyn ysgol, sy’n mynd i ysgol arbennig, lleoliad adnoddau anghenion arbennig neu uned cyfeirio disgyblion ac sy’n gymwys i gael cinio am ddim.
Dyma’r adeg pan fydd rhieni’n wynebu’r gost fwyaf o ran prynu gwisg ysgol.
Dywedodd Leighton Andrews:
“Rydyn ni’n gwybod bod prynu gwisg ysgol newydd i blentyn sy’n dechrau yn yr ysgol uwchradd yn gallu bod yn ddrud. Heddiw dw i wedi cyhoeddi y bydd £105 ar gael i bob plentyn cymwys i helpu gyda’r costau hyn ar gyfer y flwyddyn ysgol 2012/2013.
“Mae ein cynllun wedi bod yn llwyddiant mawr yn y modd mae wedi helpu teuluoedd incwm isel i brynu gwisg ysgol i’w plant. Hoffwn annog teuluoedd sy’n gymwys i ymgeisio am grant o dan y cynllun trwy gysylltu â’u hawdurdod lleol cyn gynted â phosibl.”











