Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

£919,000 ar gyfer Grid Cenedlaethol ar gyfer Dysgu Cymru

Ar y diwrnod y cafodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau, Leighton Andrews, yr adroddiad terfynol gan y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Ddulliau Addysgu Digidol yn yr Ystafell Ddosbarth gyhoeddodd y bydd Grid Cenedlaethol ar gyfer Dysgu Cymru (GCaD) yn cael bron i £1 miliwn.
Dydd Iau 29 Mawrth 2012

Mae’r GCaD yn darparu llyfrgell o adnoddau rhyngweithiol i athrawon a dysgwyr o bob lefel.

Bydd yr arian ychwanegol a gyhoeddwyd heddiw yn sicrhau y bydd adnoddau yn parhau i fod ar gael tra bod Llywodraeth Cymru yn datblygu ei hystorfa newydd o adnoddau ar-lein, Dysgu Cymru, ynghyd â phlatfform dysgu newydd ar gyfer Cymru gyfan yn ddiweddarach y flwyddyn hon.

Dywedodd y Gweinidog:

“Rydw i eisiau i Gymru fod ar flaen y gad o safbwynt cynhwysiant digidol a dysgu digidol. Rhan annatod o hynny yw sicrhau bod gwybodaeth ar gael i ddysgwyr ac athrawon mewn un ystorfa ar-lein.

“Bydd yr arian a gyhoeddwyd heddiw yn galluogi athrawon a dysgwyr i barhau i gael deunyddiau rhyngweithiol gan GcaD nes i’n ystorfa newydd gael ei lansio ar-lein.”

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Addysg a sgiliau 29 Mawrth 2012 Programme for Government - Education Ysgolion Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Tachwedd 2014
Ll M M I G S S
<< Hyd    
          1 2
3 4 5 6 7 8 9
10 11 12 13 14 15 16
17 18 19 20 21 22 23
24 25 26 27 28 29 30
I'n dilyn ni trowch i