Mae’r GCaD yn darparu llyfrgell o adnoddau rhyngweithiol i athrawon a dysgwyr o bob lefel.
Bydd yr arian ychwanegol a gyhoeddwyd heddiw yn sicrhau y bydd adnoddau yn parhau i fod ar gael tra bod Llywodraeth Cymru yn datblygu ei hystorfa newydd o adnoddau ar-lein, Dysgu Cymru, ynghyd â phlatfform dysgu newydd ar gyfer Cymru gyfan yn ddiweddarach y flwyddyn hon.
Dywedodd y Gweinidog:
“Rydw i eisiau i Gymru fod ar flaen y gad o safbwynt cynhwysiant digidol a dysgu digidol. Rhan annatod o hynny yw sicrhau bod gwybodaeth ar gael i ddysgwyr ac athrawon mewn un ystorfa ar-lein.
“Bydd yr arian a gyhoeddwyd heddiw yn galluogi athrawon a dysgwyr i barhau i gael deunyddiau rhyngweithiol gan GcaD nes i’n ystorfa newydd gael ei lansio ar-lein.”











