Byddan nhw’n cymryd rhan yn y Sgwrs Go Iawn a fydd yn cael ei chynnal heno yng Nghae Rasio Bangor Is-coed ger Wrecsam.
Bydd tua 55 o bobl ifanc o’r ysgolion isod yn cymryd rhan yn y drafodaeth:
- Ysgol Uwchradd Gatholig ac Anglicanaidd Sant Joseff
- Coleg Powys, y Drenewydd
- Ysgol Uwchradd y Fflint
- Ysgol Uwchradd Rhosnesni
- Ysgol Uwchradd John Summers
- Ysgol Uwchradd Darland
Byddan nhw’n ymuno â chyflogwyr a phobl broffesiynol sy’n gweithio ym maes addysg yn yr ardal i drafod sgiliau, cymwysterau a’r farchnad swyddi.
“Mae’r Sgwrs Go iawn yn gyfle gwych i ddod â phobl ifanc a busnesau at ei gilydd i drafod sgiliau a chymwysterau. Mae angen yr asedau pwysig hyn ar bobl ifanc er mwyn iddyn nhw fedru cystadlu yn y farchnad swyddi,” meddai’r Dirprwy Weinidog.
“Mae mynd i’r afael â diweithdra ymhlith pobl ifanc yn parhau i fod yn un o’n prif flaenoriaethau. Fel Llywodraeth, mae’n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i helpu’n pobl ifanc i gael swyddi.
“Yn ôl ym mis Medi, lansiais i Adolygiad o Gymwysterau ar gyfer pobl ifanc rhwng 14 a 19 oed yng Nghymru, er mwyn gweld a oes modd i ni symleiddio’r system. Ein gweledigaeth yw sicrhau bod gennym gymwysterau gwerthfawr a dealladwy sy’n diwallu anghenion Cymru.
“Mae’r cyfarfod yma heddiw yn gyfle i’r bobl y bydd yr adolygiad yn effeithio arnyn nhw gael dweud eu dweud.”
Nod yr Adolygiad yw nodi pa gymwysterau sydd fwyaf perthnasol a sicrhau bod y cymwysterau hynny:
- ar gael i ddysgwyr;
- yn rhai y mae pobl yn ymddiried ynddynt ac yn eu deall;
- yn rhai ac iddynt werth gwirioneddol;
- yn cynorthwyo pobl i wneud cynnydd yn eu dysgu ac i symud ymlaen i fyd cyflogaeth;
- yn parhau i ateb y gofyn.
Bydd y Dirprwy Weinidog hefyd yn trafod gwaith yr Uned a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i ymdrin â Gwybodaeth am y Farchnad Lafur.
Ychwanegodd:
“Rydyn ni’n gweithio i sicrhau bod gan bobl ifanc yr wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw i wneud penderfyniadau doeth, bod gan ddarparwyr yr wybodaeth angenrheidiol er mwyn cynllunio cyrsiau sy’n diwallu anghenion cyflogwyr ac unigolion, a bod yr wybodaeth y mae cyflogwyr yn ei rhoi i ni yn cael effaith wirioneddol.
“Bellach, am y tro cyntaf, drwy ‘beta’, gwefan newydd Gyrfa Cymru, gall pobl ifanc gael gafael ar daflenni ffeithiau sy’n rhoi gwybodaeth lawn am yrfaoedd, gan gynnwys llwybrau gyrfa, swyddi gwag, gwybodaeth am y cyrsiau sydd ar gael, a thueddiadau yn y gorffennol o ran cyflogau a’r swyddi a oedd ar gael.”











