Enw’r ymgyrch yw ‘Rho amser i ddarllen’, a’i bwriad yw codi ymwybyddiaeth o werth darllen. Mae’n annog rhieni, gofalwyr a theidiau a neiniau i ddarllen mwy gyda’u plant – gan bwysleisio y gall darllen gyda’ch plentyn am ddeng munud bob diwrnod wneud gwahaniaeth mawr.
Mae’r ymgyrch yn pwysleisio pwysigrwydd darllen amrediad eang o ddeunyddiau gwahanol sy’n amrywio o lyfrau, llyfrau comics a gwefannau i’r rhestr siopa wythnosol, a bydd yr hysbyseb i’w chlywed ar y radio a’i gweld mewn sinemâu.
Bydd ymgyrch ar-lein i gyd-fynd â’r hysbysebion. Bydd y wefan www.betterreading.co.uk ar ei newydd wedd a cheir cynghorion a deunyddiau defnyddiol ar gyfer athrawon a disgyblion fel ei gilydd. Bydd yr ymgyrch hefyd yn cael ei hysbysebu ar Facebook, bydd e-grawn ar gyfer rhieni a bydd hysbyseb yn ymddangos ar bedair gwefan ddigidol arall gan gynnwys CITV Player a S4C Clic.
Bydd yr ymgyrch hon yn cael ei chyflwyno wrth i’r byd ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Llyfrau Plant ar 2 Ebrill neu o gwmpas y dyddiad hwnnw – sef diwrnod pen-blwydd Hans Christian Andersen.
Wrth groesawu’r ymgyrch, dywedodd Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg a Sgiliau:
“Nid oes dim byd yn fwy pwysig na sicrhau bod ein pobl ifanc i gyd yn cyrraedd y lefel darllen sy’n briodol ar gyfer eu hoed ac fel Gweinidog rwyf yn benderfynol o sicrhau y byddwn yn codi safonau llythrennedd.
“Os ydym eisiau annog arferion darllen da, yna mae’n holl bwysig bod pob math o ddeunydd darllen ar gael i bob plentyn boed hynny’n llyfrau, gwefannau, llyfrau comics neu’n gylchgronau.
“Mae gan rieni, gofalwyr a theidiau a neiniau rôl bwysig i’w chwarae. Gall darllen gyda phlentyn am ddeng munud y dydd wneud gwahaniaeth mawr i’w allu a’i hyder yn gyffredinol.
“Nod yr ymgyrch hon yw dangos y gall darllen agor drysau a hoffwn annog ein pobl ifanc, eu rhieni a’u gofalwyr i wrando ar neges yr ymgyrch a gwneud amser i ddarllen.”











