Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Cynllun £75 miliwn i greu 12,000 o swyddi yng Nghymru

Heddiw lansiodd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, gynllun newydd gwerth £75m a fydd yn creu 12,000 o gyfleoedd gwaith newydd dros y tair blynedd nesaf.
Dydd Mawrth 03 Ebrill 2012
Bydd Twf Swyddi Cymru yn creu cyfleoedd gwaith newydd
Bydd Twf Swyddi Cymru yn creu cyfleoedd gwaith newydd

Bydd Twf Swyddi Cymru yn creu cyfleoedd gwaith newydd i bobl ifanc ddi-waith, 16-24 oed, am gyfnod o 6 mis ac yn rhoi’r cyfle i fusnesau ehangu a gwneud y swyddi hynny’n rhai parhaol.

Yn ystod ymweliad â Scarlet Communications yng Nghaerfyrddin, un o’r cwmnïau sy’n cymryd rhan yng nghynlluniau peilot y rhaglen, dywedodd Carwyn Jones:

“Mae Twf Swyddi Cymru yn gweithredu un o’r prif bolisïau i hyrwyddo twf economaidd a swyddi yng Nghymru.

“Nid yn unig bydd y cynllun hwn yn creu cyfleoedd i bobl ifanc ddi-waith, sydd wedi dioddef yn fwy na’r cyffredin yn y dirwasgiad, ond bydd y swyddi hyn hefyd yn swyddi ewydd, gan helpu busnesau Cymru i ehangu.”

Caiff y bobl ifanc eu talu ar sail yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu’n uwch am o leiaf 25 awr yr wythnos. Rhaglen yw hon ar gyfer y rheini sy’n barod am waith ond heb allu dod o hyd i swydd.

Dywedodd Jeff Cuthbert, y Dirprwy Weinidog Sgiliau:

“Yn sgil y problemau ariannol diweddar, rydyn ni wedi gweld nifer cynyddol o bobl ifanc 16-24 oed yn methu â chael gwaith neu heb fod yn dilyn cwrs addysg,” esboniodd.

“Bydd Twf Swyddi Cymru yn ei gwneud yn bosibl i unigolion allu ennill profiad gwaith o ansawdd er mwyn cael gwaith parhaol neu brentisiaeth lle bo hynny’n briodol. Caiff y mwyafrif o swyddi eu creu o fewn y sector preifat, er bydd rhai ar gael yn y sector gwirfoddol hefyd.

“Bydd angen i fusnesau sy’n cymryd rhan yn y cynllun ddangos bod y swyddi rydyn ni’n eu cefnogi yn rhai newydd. Byddwn ni’n gweithio gyda phob cyflogwr a pherson ifanc i  wneud ein gorau i sicrhau bod rhwbeth i bawb anelu ato, boed yn waith amser llawn gyda’r cyflogwr presennol, yn brentisiaeth neu’n waith amser llawn gyda chyflogwr arall.”

Dywedodd Jason Rosser, Rheolwr Gyfarwyddwr Scarlet Communications:

“Roedden ni wrth ein bodd yn cael cymryd rhan yn y cynllun arloesol hwn. Nid yn unig rydyn ni wedi gallu cynnig profiad gwerthfawr i bobl ifanc frwdfrydig a thalentog, ond mae hefyd wedi rhoi cyfle inni ehangu ein busnes i feysydd newydd. Yn sgil y rhaglen, rydyn ni’n gobeithio gallu creu swyddi parhaol newydd a chynnig gwaith amser llawn i bawb yn y cynllun.”

Yn dilyn peilot llwyddiannus, dywedodd Mr Cuthbert fod gan gwmnïau bach a mawr o’r sector preifat o bob rhan o Gymru ddiddordeb mewn ymuno â’r rhaglen, gan gynnig cyfleoedd i bobl ifanc.

Dyma rai enghreifftiau o’r cwmnïau hynny:

  • Target Group. Meddalwedd a gwasanaethau TG
  • Cwmni yswiriant Admiral
  • TB Davies ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Un o brif gyflenwyr sgaffaldau’r DU i ddiwydiant.
  • Meritor Cwmbran. Peirianneg, Gweithgynhyrchwyr Brêcs Cerbydau Trwm.
  • Pennaf Cyf. Gwasanaethau tai yn y Canolbarth a’r Gogledd.
  • Emrys Art Supplies, â siopau yng Nghaerfyrddin a Hwlffordd.
  • Cerrig Granite & Slate. Pwllheli. Un o brif arbenigwyr gwaith cerrig y DU.

Esboniodd Mr Cuthbert y bydd y rhaglen hefyd yn rhoi cyfle i fynd i’r afael â rhai materion penodol o fewn economi Cymru. Bydd tair ffrwd benodol yn targedu graddedigion, micro-fusnes a swyddi gwyrdd.

Gall pobl ifanc wneud cais drwy wefan Twf Swyddi Cymru, yn www.gyrfacymru.com

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Gwefannau

Gyrfa Cymru

Tagiau

Addysg a sgiliau 03 Ebrill 2012 Yr economi Programme for Government - Growth Programme for Government - Supporting People Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i