Mae Techniquest yng Nghaerdydd, a Techniquest Glyndŵr yn Wrecsam, yn darparu ystod o wasanaethau addysgol drwy arddangosfeydd rhyngweithiol a deunyddiau dysgu sydd ar gael ar safleoedd ledled Cymru a thrwy raglenni allgymorth ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd.
Bydd y cyllid a gyhoeddwyd heddiw yn galluogi’r ddwy ganolfan i gyflwyno rhaglenni sy’n cwmpasu sbectrwm llawn y cwricwlwm – o’r Cyfnod Sylfaen i ddysgu 14-19.
Am y tro cyntaf yn 2012-13, bydd Techniquest yn gweithredu ystod newydd ei diweddaru o raglenni theatr gwyddoniaeth ar gyfer ysgolion cynradd, sydd wedi eu teilwra i’r cwricwlwm ar gyfer dosbarthiadau Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2. Mae’r rhain wedi eu cynllunio’n benodol i annog plant i ymchwilio ymhellach i’r pethau a gaiff eu dangos yn y brif arddangosfa. Bydd athrawon yn cael camerâu digidol i gofnodi’r diwrnod y gellir wedyn eu defnyddio yn yr ysgol i gefnogi’r dysgu yn y dosbarth.
Yn y cyfamser, mae rhaglen waith Techniquest Glyndŵr yn cynnwys prosiect newydd ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 3 gyda’r nod o roi hwb i berfformiad Cymru yn y profion PISA. Bydd hyn yn cynnwys dau ddiwrnod llawn o weithgareddau STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg) ar gyfer disgyblion mwy abl a thalentog ym mhob un o’r ysgolion uwchradd yn Wrecsam a Sir y Fflint (gan gyrraedd cyfanswm o 21 o ysgolion a bydd 1,890 o ddisgyblion yn elwa arnynt).
Bydd y rhaglen arall, a fydd yn canolbwyntio ar weithgareddau sy’n gysylltiedig â chyflogwyr ar gyfer pobl ifanc 14-16 mlwydd oed, yn cynnwys 30 o ysgolion ac yn cynnig cyfle i hyd at 1,500 o ddisgyblion. Bydd yn cynnwys gweithdy sy’n gysylltiedig â’r diwydiant, gydag ymweliad ag un o weithleoedd y diwydiant i ddilyn, lle bydd y myfyrwyr yn gweld pobl broffesiynol wrth eu gwaith, gyda’r nod o godi ymwybyddiaeth o yrfaoedd STEM a hybu’r pynciau STEM sy’n cael eu hastudio ar lefel ôl-16.
Dywedodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau, Leighton Andrews:
"Un o brif nodau ein strategaeth Gwyddoniaeth i Gymru yw meithrin brwdfrydedd dros bynciau STEM o oedran ifanc.
"Bydd y cyllid rwyf yn ei gyhoeddi heddiw yn galluogi Techniquest a Techniquest Glyndŵr i fynd gam ymhellach wrth ennyn diddordeb disgyblion mewn pynciau STEM.
"Wrth ysgogi diddordeb disgyblion yn gynnar, gallwn sicrhau bod mwy o’n pobl ifanc yn mynd ati i ragori yn y maes hwn gan ystyried gwyddoniaeth, mathemateg, technoleg neu beirianneg fel sylfaen ar gyfer gyrfaoedd yn y dyfodol."











