Cafodd gwahoddiadau i dendro ar gyfer y contract eu hanfon ym mis Ionawr. Y cynnig llwyddiannus oedd y cynnig consortia a gyflwynwyd gan Brifysgol Caerdydd, y Sefydliad Addysg, Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Bangor.
Mae’r Gweinidog wedi cyhoeddi y bydd Athrawon Newydd Gymhwyso yn cael y cyfle i ddilyn rhaglen Gradd Meistr ochr yn ochr â’u Cyfnod Sefydlu a Datblygiad Proffesiynol Cynnar o fis Medi 2012.
Bydd elfennau allweddol y rhaglen Gradd Meistr yn canolbwyntio ar dair blaenoriaeth genedlaethol y Gweinidog, sef llythrennedd; rhifedd a lleihau effaith tlodi ar gyrhaeddiad.
Dywedodd y Gweinidog:
“Hoffwn longyfarch yr holl sefydliadau cysylltiedig ar eu cynnig ar y cyd ac rwy’n edrych ymlaen at weld sut byddan nhw’n cyflwyno’r rhaglen Gradd Meistr newydd hon.
“Fel yr wyf wedi dweud o’r blaen, mae angen i ni godi safonau perfformiad yn gyffredinol yng Nghymru fel y gall ein dysgwyr wireddu eu potensial.
“Rhan hanfodol o hyn yw sicrhau bod gennym athrawon medrus sy’n gallu sicrhau dysgu ac addysgu effeithiol yn yr ystafell ddosbarth. Bydd y Radd Meistr mewn Ymarfer Addysgol newydd yn ein helpu i gyflawni hynny.”











