Bydd y pecyn hwn yn helpu athrawon a threfnwyr i gefnogi dysgwyr trwy wneud yn siŵr eu bod yn cael pob cyfle i gyrraedd eu potensial yn llawn.
Wrth siarad yng nghynhadledd Cymdeithas Genedlaethol ar gyfer Plant Galluog mewn Addysg (NACE Cymru) yng Nghaerdydd heddiw, talodd y Gweinidog deyrnged i’r gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud i fodloni anghenion disgyblion mwy abl a thalentog, a chafwyd syniad o sut y byddai’r pecyn newydd, yn ogystal â dulliau eraill, yn parhau i gefnogi athrawon yn ogystal â dysgwyr:
Meddai’r Gweinidog:
“Yn 2008, wedi i Lywodraeth Cymru gydweithio gyda NACE Cymru, cyhoeddwyd safonau ansawdd mewn addysg ar gyfer disgyblion mwy abl a thalentog – cafodd y ddogfen hon ei dosbarthu i bob ysgol yng Nghymru.
“Nododd adroddiad Estyn yn 2011 ar ddisgyblion Mwy Abl a Thalentog mewn Ysgolion Cynradd bod bron pob ysgol oedd â darpariaeth dda ar gyfer dysgwyr mwy abl a thalentog yn defnyddio’r safonau hyn.
“Er ein bod yn ymwybodol bod enghreifftiau o arfer da ledled Cymru, mae’n rhaid inni wneud yn siŵr bod pob ysgol yn gyson yn y ffordd y maen nhw’n helpu disgyblion Mwy Abl a Thalentog.
“Mae’r dystiolaeth yn dangos bod strategaethau addysgu a dysgu sy’n cael effaith bositif ar y disgyblion Mwy Abl a Thalentog yn gwella safonau ar gyfer pob disgybl.
“Dwi’n ddiolchgar i NACE Cymru am eu help wrth ddatblygu’r pecyn hyfforddi newydd hwn. Bydd yn adnodd gwerthfawr i wneud yn siŵr bod potensial ein disgyblion mwyaf abl yn cael ei wireddu’n llawn.”











