Telir grant o £1,000 i bob myfyriwr cymwys newydd a fydd yn dechrau ar gyrsiau hyfforddiant cychwynnol athrawon ôl-radd amser llawn cyn cael eu cyflogi a hynny ym mlwyddyn academaidd 2012/13 ym mhob pwnc ar wahân i bynciau’n gysylltiedig â gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg, Cymraeg, a Sgiliau Bywyd sef Llythrennedd a Rhifedd.
Bydd grant ar lefel uwch o £3,000 ar gael i fyfyrwyr cymwys sy’n hyfforddi i addysgu pynciau’n gysylltiedig â gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg, Cymraeg, a Sgiliau Bywyd Llythrennedd a Rhifedd.
Dywedodd Leighton Andrews:
“Rydym yn cynnig cymhelliannau TAR (AB) HCA er mwyn targedu ein blaenoriaethau uchaf o safbwynt recriwtio, sydd hefyd yn cynnwys rhoi cefnogaeth i addysgu llythrennedd a rhifedd, gan gydnabod ar yr un pryd y pwysigrwydd a roddir i recriwtio athrawon o safon ym mhob pwnc yn y sector addysg bellach a sgiliau.
“Bydd y cymhelliannau hyn yn helpu i ddenu myfyrwyr o safon i hyfforddi fel athrawon addysg bellach yng Nghymru a byddant hefyd yn hwb i ddarparwyr HCA yng Nghymru sy’n rhedeg y cyrsiau hyn i gystadlu’n effeithiol am yr ymgeiswyr mwyaf talentog.”











