Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Cyhoeddi cymhelliannau hyfforddi athrawon ar gyfer Addysg Bellach

Heddiw, cyhoeddodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau, Leighton Andrews, gymhelliannau newydd ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon (HCA) i fyfyrwyr sy’n gymwys i ddilyn cyrsiau ôl-radd ym maes addysg bellach (AB) ym mlwyddyn academaidd 2012/13.
Dydd Llun 07 Mai 2012

Telir grant o £1,000 i bob myfyriwr cymwys newydd a fydd yn dechrau ar gyrsiau hyfforddiant cychwynnol athrawon ôl-radd amser llawn cyn cael eu cyflogi a hynny ym mlwyddyn academaidd 2012/13 ym mhob pwnc ar wahân i bynciau’n gysylltiedig â gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg, Cymraeg, a Sgiliau Bywyd sef Llythrennedd a Rhifedd.

Bydd grant ar lefel uwch o £3,000 ar gael i fyfyrwyr cymwys sy’n hyfforddi i addysgu pynciau’n gysylltiedig â gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg, Cymraeg, a Sgiliau Bywyd Llythrennedd a Rhifedd.

Dywedodd Leighton Andrews:

“Rydym yn cynnig cymhelliannau TAR (AB) HCA er mwyn targedu ein blaenoriaethau uchaf o safbwynt recriwtio, sydd hefyd yn cynnwys rhoi cefnogaeth i addysgu llythrennedd a rhifedd, gan gydnabod ar yr un pryd y pwysigrwydd a roddir i recriwtio athrawon o safon ym mhob pwnc  yn y sector addysg bellach a sgiliau.

“Bydd y cymhelliannau hyn yn helpu i ddenu myfyrwyr o safon i hyfforddi fel athrawon addysg bellach yng Nghymru a byddant hefyd yn hwb i ddarparwyr HCA yng Nghymru sy’n rhedeg y cyrsiau hyn i gystadlu’n effeithiol am yr ymgeiswyr mwyaf talentog.”

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Addysg a sgiliau 07 Mai 2012 Rhaglen Lywodraethu Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Awst 2014
Ll M M I G S S
<< Gor    
        1 2 3
4 5 6 7 8 9 10
11 12 13 14 15 16 17
18 19 20 21 22 23 24
25 26 27 28 29 30 31
I'n dilyn ni trowch i