Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Sgiliau llythrennedd a rhifedd yn rhan allweddol o hyfforddiant cychwynnol athrawon meddai’r Gweinidog

Mae ymgynghoriad newydd sy’n holi barn am gyflwyno gofynion manylach ar gyfer llythrennedd a rhifedd mewn cyrsiau hyfforddiant cychwynnol athrawon (HCA) yng Nghymru wedi’i lansio gan Lywodraeth Cymru.
Dydd Mercher 16 Mai 2012

Mae’r ymgynghoriad yn cyflwyno cynigion ar gyfer llythrennedd a rhifedd mewn HCA, a amlinellwyd gan Leighton Andrews y Gweinidog Addysg yn ei gynllun 20 pwynt i godi safonau addysg yng Nghymru.  

Mae’r cynllun yn tynnu sylw at bwyslais arbennig ar lythrennedd, rhifedd a thorri’r cysylltiad rhwng tlodi a chanlyniadau addysgol gwael.  

Mae’r cynigion yn yr ymgynghoriad yn cynnwys cyrsiau HCA ar gyfer y rhai hynny sy’n dymuno hyfforddi fel athrawon mewn ysgolion a gynhelir ac ennill Statws Athro Cymwysedig.  Ar gyfer cyrsiau HCA sy’n cael eu cynnal gan brifysgolion yng Nghymru sy’n gweithredu fel darparwyr HCA wedi’u hachredu, mae’r ymgynghoriad yn holi barn am gynigion i:  

  • godi’r safon mynediad gofynnol o ran cymwysterau academaidd o rai sy’n cyfateb â TGAU Gradd C yn Saesneg a Mathemateg (a hefyd mewn pwnc gwyddonol ar gyfer ysgolion cynradd) i rai sy’n cyfateb â TGAU Gradd B  
  • cyflwyno darpariaeth newydd i’w gwneud yn orfodol i ddarparwyr HCA sicrhau bod ymgeiswyr yn cael eu hasesu ar sgiliau personol ymarferol mewn llythrennedd a rhifedd sy’n berthnasol i gyd-destun dysgu proffesiynol  
  • yflwyno asesiadau rheolaidd a chywir o sgiliau personol athrawon dan hyfforddiant ym maes llythrennedd a rhifedd trwy gydol eu hyfforddiant  
  • cyflwyno darpariaeth newydd i’w gwneud yn orfodol i bob darparwr HCA sicrhau fod pob myfyriwr yn cael eu hyfforddi i ddysgu rhifedd a llythrennedd sy’n addas i’r cyfnod a’r pwnc y maent yn ei ddysgu.  

Mae’r ymgynghoriad hefyd yn cynnig newidiadau tebyg i’r Cynllun Hyfforddi Athrawon ar sail Cyflogaeth, gyda’r nod o sicrhau bod y dull o ddysgu llythrennedd a rhifedd yn ystod HCA ar yr un sail boed i’r hyfforddiant fod ar gwrs prifysgol neu mewn ysgolion.  

Meddai Leighton Andrews y Gweinidog Addysg:

“Mae gwella safon llythrennedd a rhifedd yn ganolog i’m hagenda i wella ysgolion.  Mae sicrhau fod gan bob athro sgiliau llythrennedd a rhifedd cadarn yn ganolog i hyn.”  

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Y gofynion ar gyfer darparu cyrsiau hyfforddiant cychwynnol athrawon yng Nghymru - materion llythrennedd a rhifedd

Tagiau

Addysg a sgiliau 16 Mai 2012 Rhaglen Lywodraethu Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i