O fis Medi 2012 ymlaen bydd gan Athrawon Newydd Gymhwyso gyfle i ddilyn Rhaglen Meistr yn rhan o’u Rhaglen Ymsefydlu a’u Datblygiad Proffesiynol Cynnar.
Mae Llywodraeth Cymru yn gwahodd enwebiadau o blith Ysgolion ac Awdurdodau Addysg yng Nghymru ar gyfer ymarferwyr neu unigolion profiadol a chanddynt brofiad diweddar a pherthnasol ym maes ymarfer addysgol i fanteisio ar y cyfle i fod yn fentor allanol er mwyn:
- Hyrwyddo gwella deilliannau ymhlith dysgwyr a chodi safonau addysgu yng Nghymru.
- Bod yn rhan o rwydwaith newydd a chyffrous o fentoriaid ledled Cymru gyda chyfle i gael eu datblygu a’u hyfforddi ym maes coetsio a mentora.
- Profi cyfle unigryw i weithio ochr yn ochr ag ymarferwyr, Sefydliadau Addysg Uwch a Llywodraeth Cymru a hynny mewn rôl allweddol yn rhan o’r rhaglen Meistr mewn Ymarfer Addysgol.
Bydd y cyfle datblygu newydd cyffrous hwn yn cynnig profiad unigryw a bydd y manteision i’r mentoriaid, i’w hysgolion a’r athrawon newydd gymhwyso yn bellgyrhaeddol.
Bydd rôl arbennig i’r mentoriaid hefyd yn cefnogi’r athrawon newydd gymhwyso drwy gydol eu blwyddyn Ymsefydlu a thrwy gydol tair blynedd y rhaglen Meistr; byddant ar gael i roi cymorth, cyngor a choetsio o’r safon uchaf er mwyn galluogi athrawon newydd gymhwyso i ddatblygu eu hymarfer ac i gasglu ac asesu’r dystiolaeth all gael ei defnyddio i ddangos cymhwysedd yn unol â’r safonau ar gyfer athrawon wrth eu gwaith er mwyn cwblhau’r Cyfnod Ymsefydlu a Meistr mewn Ymarfer Addysgol.
Dywedodd Leighton Andrews said:
"Rhan allweddol o godi safonau a pherfformiad mewn ysgolion yng Nghymru yw datblygu athrawon sy’n meddu ar sgiliau o’r safon uchaf bosibl ac sy’n gallu cyflawni o ran sicrhau addysgu a dysgu effeithiol yn yr ystafell ddosbarth.
"Rwyf yn ffyddiog y bydd ein rhaglen Meistr mewn Ymarfer Addysgol yn ein helpu ni i gyflawni hynny ond bydd angen cymorth a chyfarwyddyd gan y gorau ar athrawon newydd gymhwyso.
"Dyna’r rheswm ein bod yn chwilio am athrawon gwych i fod yn fentoriaid er mwyn sicrhau y gallant drosglwyddo eu gwybodaeth a’u profiad eang i’r genhedlaeth nesaf o addysgwyr yng Nghymru."











