Cyhoeddwyd y newyddion am y cyllid gan Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg a Sgiliau, yn lansiad Fforwm Tlodi Diwylliannol Plant yn Eisteddfod yr Urdd yng Nghaernarfon.
Elusen gofrestredig yw FILMCLUB CYMRU ac, mewn partneriaeth ag Asiantaeth Ffilm Cymru, mae’r elusen yn gweithio gydag athrawon a disgyblion mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ledled Cymru i helpu i sefydlu clybiau ffilm.
Mae’r clybiau hyn yn cael eu trefnu yn ystod yr awr ginio neu ar ôl ysgol ac maent yn annog disgyblion i wella eu sgiliau llythrennedd a’u sgiliau cyfathrebu. Maen nhw’n gwneud hynny drwy ysgrifennu adolygiadau o ffilmiau, trafod ffilmiau a thrwy ddarllen am faterion sy’n codi mewn ffilmiau.
Mae FILMCLUB Cymru yn dangos amryw o ffilmiau o Gymru a ffilmiau drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hefyd yn weithgar wrth gefnogi adolygiadau sy’n cael eu cyflwyno yn y Gymraeg ac mae adran benodol ar gyfer y Gymraeg ar wefan yr elusen.
Nod y prosiect yw cau’r bwlch rhwng cyfleoedd addysg a pherfformiad drwy sicrhau bod disgyblion sydd o dan anfantais yn dod o hyd i ffyrdd newydd o gyfathrebu a dysgu.
Bellach, bydd rôl allweddol gan yr elusen yn y fforwm newydd. Nod y fforwm yw dod ag amrywiaeth eang o brofiadau a chyfleoedd dysgu ynghyd ar gyfer plant sy’n byw mewn tlodi diwylliannol.
Roedd y lansiad heddiw yn nodi dechrau tymor sydd wedi’i neilltuo i dlodi diwylliannol gan FILMCLUB a gwnaed hynny drwy ddangos ffilm y maen nhw wedi’i chynhyrchu sy’n seiliedig ar y pwnc. Bydd y ffilm hon yn cael ei dosbarthu i bob ysgol ledled Cymru sy’n rhan o’r FILMCLUB.
Yn y lansiad heddiw, dywedodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau:
“Pleser yw cyhoeddi bod rhagor o gyllid ar gael ar gyfer y prosiect arloesol hwn.
“Bythefnos yn unig yn ôl, fe wnes i lansio ein Rhaglen Lythrennedd Genedlaethol. Mae’r rhaglen honno’n nodi’r camau sydd angen eu cymryd i gyflawni newid sylweddol mewn safonau llythrennedd dros y pum mlynedd nesaf.
“Mae FILMCLUB Cymru yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i’r agenda hon yn barod. Mae disgyblion sy’n cymryd rhan yn y prosiect yn gallu datblygu eu sgiliau llythrennedd a’u sgiliau cyfathrebu drwy ddadansoddi ffilmiau a thrwy ymchwilio i faterion sy’n codi yn y ffilmiau.
“Rydw i’n sicr y bydd FILMCLUB Cymru yn gwneud cyfraniad gwerthfawr iawn i waith y fforwm newydd. Dymunaf yn dda iddyn nhw wrth iddyn nhw ymestyn eu gwaith i ysgolion newydd a chynulleidfaoedd newydd.”
Dywedodd Mark Higham, Prif Weithredwr FILMCLUB:
“Wrth i blant ymddiddori mewn ffilmiau a chelfyddydau eraill, rydym yn gwybod bod hyn yn eu cynorthwyo i fod yn barod i ddysgu. Yn ogystal, mae’n ffactor allweddol i lwyddiant academaidd a symudedd cymdeithasol.
“Bydd y Fforwm yn rhannu arfer da ac yn ymchwilio i gamau ymarferol y bydd modd eu defnyddio i leihau tlodi diwylliannol ac i sicrhau bod pob plentyn yn cael addysg mor amrywiol â phosibl a’r cyfleoedd gorau posibl mewn bywyd.”











