Bydd yr ymgynghoriad, a gynhelir rhwng yr 11eg o Fehefin a’r 12fed o Hydref, yn gofyn am farn ar y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol a’r Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol, sydd ill dau yn elfennau allweddol o Raglen Llythrennedd Genedlaethol Cymru.
Bydd y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol, a ddaw yn rhan statudol o’r cwricwlwm o fis Medi 2013, yn help i gynllunio’r cwricwlwm a hefyd yn help i athrawon fonitro cynnydd disgyblion ym maes llythrennedd a rhifedd yn erbyn disgwyliadau blynyddol clir ar gyfer pob dysgwr rhwng 5 ac 14 mlwydd oed.
Bwriad y Fframwaith yw helpu ysgolion i nodi y ffordd orau o herio a chynorthwyo pob un o’u dysgwyr, tra’n rhoi darlun cliriach a mwy cyson i athrawon, rhieni a gofalwyr o gynnydd a gallu disgybl.
Bydd ysgolion cynradd ac uwchradd yn defnyddio’r Fframwaith fel dull o gynllunio’r cwricwlwm, gan gynnwys dysgu llythrennedd a rhifedd ym mhob pwnc yn hytrach na mewn gwersi Cymraeg, Saesneg a Mathemateg yn unig.
Ochr yn ochr â’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol, cyflwynir profion darllen a rhifedd. Bydd yn rhaid i bob dysgwr ym Mlynyddoedd 2 i 9, neu rhwng 7 ac 14 mlwydd oed mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru gymryd y ddau brawf, fydd ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Ar hyn o bryd, mae’r rhan fwyaf o ysgolion yng Nghymru yn defnyddio profion darllen, a nifer yn defnyddio rhyw fath o brofion rhifedd neu lythrennedd. Bydd y profion newydd yn cyflwyno dull cyson o brofi ac yn rhoi darlun mwy cywir o allu a chynnydd disgyblion.
Meddai Leighton Andrews y Gweinidog Addysg:
“Nid oes dim sy’n bwysicach na gwneud yn siŵr bod gan bob un o’n pobl ifanc y sgiliau y maent eu hangen i ddarllen, ysgrifennu a chyfathrebu.
“Mae’r heriau sydd o’n blaenau yn glir iawn. Mae’n hanfodol ein bod yn gweld newid sylweddol mewn safonau llythrennedd a rhifedd.
“Dylai bawb sy’n rhan o faes addysgu plant gael y cyfle i ddweud eu dweud ar y Fframwaith newydd a’r profion darllen a rhifedd cenedlaethol.
“Bydd y Fframwaith yn helpu inni wella’r ffordd rydyn ni’n monitro ac yn asesu datblygiad disgyblion, tra’n gwneud yn siŵr hefyd bod digon o her a chymorth i bob dysgwr.
“Bydd y profion darllen a rhifedd yn helpu’r Fframwaith trwy gynnig dull dibynadwy, dilys a chyson o asesu, sy’n rhoi darlun llawer cliriach o allu disgybl mewn llythrennedd a rhifedd.
“Dwi’n croesawu pob barn ac adborth adeiladol cyn inni gyflwyno’r mesurau hyn yn statudol y flwyddyn nesaf.”
Yn dilyn yr ymgynghoriad, caiff y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd ei lansio ym mis Ionawr 2013, a daw yn rhan statudol o’r cwricwlwm o fis Medi 2013. Caiff profion darllen a rhifedd eu cyflwyno’n statudol ym mis Mai 2013.











