Cafodd yr enillwyr eu dewis o blith nifer o enwebiadau a byddant yn ymuno â thimau buddugol eraill o Loegr a Gogledd Iwerddon yn Seremoni'r DU a gaiff ei darlledu ar BBC2 yn yr hydref.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu £10,000 at Wobrau 2012, sy'n cydnabod rhagoriaeth ym mhob rhan o'r proffesiwn.
Gweler isod restr lawn o enillwyr Cymru a'u categorïau:
Gwobr Ted Wragg am Wasanaeth Oes
Mrs Glenys Jones, Ysgol Uwchradd Gatholig yr Esgob Hedley, Merthyr Tudful.
Gwobr Cynorthwyydd Addysgu'r Flwyddyn
Mrs Yasmin Gedney, Ysgol Gymunedol Blaenafon, Gwent
Gwobr Athro Ysgol Uwchradd y Flwyddyn
Mr Sion Jones, Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon
Gwobr Tîm Ysgol Rhagorol y Flwyddyn
Yr Adran Saesneg, Ysgol Gyfun Cynffig, Pen-y-bont ar Ogwr
Cafodd pob un o'r enillwyr uchod eu henwebu drwy gyfrwng neges ar-lein yn mynegi diolch. Ystyriwyd y neges gan banel dyfarnu Gwobrau Addysgu Pearson. Erbyn hyn, gwahoddir enwebiadau ar gyfer gwobrau 2013.
Ymhlith enillwyr y gwobrau unigol roedd Sion Jones o Ysgol Syr Hugh Owen yng Nghaernarfon, a enwebwyd gan 5 o'i ddisgyblion. Roedd pob un ohonyn nhw'n awyddus i ddweud bod brwdfrydedd ac angerdd eu hathro at Hanes wedi annog ynddyn nhw gariad at y pwnc.
Dywedodd pennaeth Ysgol Syr Hugh Owen bod Sion wedi rhoi "profiad o'r radd flaenaf o hanes ar bob lefel" i'w ddisgyblion, ac roedd yn cael ei ddisgrifio fel athro a oedd "yn ysbrydoli, a oedd yn frwd ac yn dangos gofal tuag at ei ddisgyblion". Roedd ganddo hefyd "enw da haeddiannol am lunio gwersi ysgogol a chael canlyniadau arholiad eithriadol."
Cafodd Adran Saesneg Ysgol Gyfun Cynffig ganmoliaeth gan y beirniaid am ei gwaith eithriadol yn codi safonau ar bob lefel ac ysbrydoli disgyblion o bob gallu.
Roedd athrawon yr Adran wedi tanio dychymyg y disgyblion drwy greu gwersi deniadol, dyfeisgar a hwyliog, gan gynnwys troi'r ystafelloedd dosbarth yn labordai NCIS. Arweiniodd hyn at don o frwdfrydedd at y pwnc, gyda rhai disgyblion yn dechrau eu hastudiaethau Lefel A ym mlwyddyn 11, a bron hanner y chweched dosbarth yn dewis parhau â'u hastudiaethau ar gyfer Lefel AS a Lefel A.
Dywedodd y beirniaid bod Glenys Jones, enillydd Gwobr Ted Wragg am Wasanaeth Oes, yn athrawes Economeg ac Astudiaethau Busnes "eithriadol". Roedd hi'n annog pob un o'i disgyblion i anelu’n uchel a chyflawni eu dyheadau.
Cafodd Yasmin Gedney, o Ysgol Gymunedol Blaenafon, enillydd Gwobr Cynorthwyydd Addysg y Flwyddyn, ganmoliaeth gan y beirniaid am ei "phroffesiynoldeb a'i gofal mawr" tuag at ddisgyblion y gorffennol a'r presennol.
Llongyfarchwyd yr holl enillwyr gan Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg, ac meddai:
"Mae gan Gymru lawer o athrawon rhagorol, ac mae ond yn deg ein bod ni'n cydnabod eu gwaith caled, eu brwdfrydedd a'u hymroddiad nhw. Oherwydd hynny, mae Llywodraeth Cymru'n falch iawn o gefnogi Gwobrau Addysgu Pearson.
"Dw i am longyfarch pob un o'r enillwyr ar eu llwyddiannau arbennig. Mae eu hymdrechion nhw wedi bod yn ysbrydoledig iawn. Yn ogystal â chodi safonau ar draws y bwrdd, maen nhw wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ac amlwg i'w disgyblion, eu hysgolion a'u cymunedau. Da iawn bawb.”
Erbyn hyn, gall disgyblion, penaethiaid, rhieni, cydweithwyr a chyn-ddisgyblion enwebu athro neu athrawes ar gyfer gwobrau'r flwyddyn nesaf drwy fynd i'r adran Diolch Athro ar wefan Gwobrau Addysgu Pearson











