Roedd y sesiwn cwestiwn ag ateb yn rhan o Wythnos Bagloriaeth Cymru yn Aberystwyth. Roedd pedair ysgol o dde Cymru yn mynychu’r wythnos ac yn cymryd rhan mewn llu o weithgareddau i ddysgu mwy am Gymru, Ewrop a’r Byd sef un o fodiwlau Bagloriaeth Cymru. Trefnwyd yr wythnos ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Prifysgol Aberystwyth.
Pan yn ymweld a swyddfa Llywodraeth Cymru tasg y disgyblion oedd datblygu maniffesto newydd yn un o feysydd portffolio’r Llywodraeth. Cafodd y myfyrwyr oedd yn gyfrifol am addysg gyfle i rhannu ei syniadau newydd gyda’r Gweinidog yn ogystal a’i holi am ei obeithion i’r dyfodol. Yn dilyn y sesiwn cwestiwn ag ateb bu’r disgyblion yn ymweld a Llyfrgell Genedlaethol Cymru a chymryd rhan mewn darlith rhyngweithiol ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Dywedodd Leighton Andrews, Gweinidog Addysg a Sgiliau:
“Mae swyddfa Aberystwyth yn adnodd addysg ac yn bwynt gwybodaeth bwysig iawn i fyfyrwyr ymweld a dysgu mwy am waith Llywodraeth Cymru.
"Rwy’n falch iawn ein bod yn cefnogi myfyrwyr sy’n astudio Bagloriaeth Cymru ac roeddwn i yn hapus iawn i gael cyfle i gymryd rhan yn y sesiwn yma gyda Ysgol Maes y Dderwen.”
Mae’r cydweithio rhyngom ni, y Llyfrgell Genedlaethol a Phrifysgol Aberystwyth yn profi i fod yn effeithiol iawn ac yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gael golwg ar drysorau a threftadaeth Cymru yn ogystal a dysgu mwy am rôl a gwaith Llywodraeth Cymru.”
Dywedodd Liam Howells, disgybl chweched dosbarth o Ysgol Maes y Dderwen,
“Mae’r cyfle i ddatblygu portffolio gweinidogol wedi helpu ni i ystyried y gwaith mae gwleidyddion yng Nghymru yn gwneud ac i weld pa faterion sy’n effeithio ar Gymru ar hyn o bryd. Roedd holi’r Gweinidog Addysg yn gyfle arbennig, a phwy a wŷr efallai bydd y Gweinidog yn defnyddio rhai o’n syniadau ni yn y dyfodol.”











