Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Mynd i’r afael a thlodi drwy Addysg – Gweinidog yn esbonio’r cynlluniau

Dywedodd Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg a Sgiliau wrth gynulleidfa ryngwladol o arbenigwyr yn Aberystwyth y bydd lleihau effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol yn hollbwysig wrth fynd i’r afael â thlodi plant.
Dydd Iau 28 Mehefin 2012

Tra oedd yn siarad mewn cynhadledd ym Mhrifysgol Aberystwyth heddiw, dywedodd Mr Andrews fod tlodi wed bod yn broblem barhaus yng Nghymru a bod Llywodraeth Cymru yn benderfynol o fynd i’r afael â’r broblem.

Dywedodd,

“Lansiwyd ein Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi 2012-2016 ddydd Llun ac mae’n nodi tri amcan allweddol sef atal tlodi, helpu pobl i wella eu sgiliau er mwyn sicrhau gwaith a lliniaru effaith tlodi.

“Mae tystiolaeth yn dangos bod nodweddion teuluol a’r amgylchedd yng nghartrefi plant sy’n wynebu amddifadedd yn cael effaith gref a chyson ar eu cyfleoedd bywyd, a hynny drwy’r dylanwad y cânt ar gyfleoedd y plant i ddysgu. Nid oes amheuaeth bod gan ein system addysg rôl unigryw wrth helpu ein plant tlotaf.”  

Esboniodd Mr Andrews bod nifer o bolisïau addysg Llywodraeth Cymru, sydd wedi’u selio ar ganfyddiadau gwaith ymchwil, o gymorth wrth fynd i’r afael â thlodi ac anghydraddoldeb.

Dywedodd ei fod wedi cyflwyno cynllun gweithredu 20 pwynt er mwyn rhoi terfyn ar yr amrywiaeth sy’n bodoli o fewn ysgolion a rhwng ysgolion ac er mwyn codi perfformiad ysgolion fel bod pawb yn cael y profiad addysg gorau posibl.

Dywedodd wrth y gynhadledd,

“Gall ysgolion effeithiol dorri’r cysylltiad rhwng cyrhaeddiad addysgol a thlodi.”

“Rydw i eisoes wedi nodi’n glir fy nhair blaenoriaeth ar gyfer addysg: gwella lefelau llythrennedd, gwella lefelau rhifedd a lleihau effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol. Byddwn yn torri’r cysylltiad hwnnw drwy wella safonau.”

Ychwanegodd y Gweinidog:

“Hefyd, rydym yn buddsoddi yn y blynyddoedd cynnar er mwyn rhoi’r dechrau gorau posibl i blant. Rydym wedi buddsoddi mwy yn y blynyddoedd cynnar, gan gefnogi plant ifanc a’u teuluoedd drwy gynllun Dechrau’n Deg, gan ddyblu’r nifer sy’n rhan o’r cynllun. Hefyd, dyna paham rydym wedi buddsoddi cymaint yn y Cyfnod Sylfaen.”

Dywedodd Mr Andrews bod Llywodraeth Cymru yn gwneud gwaith i godi safonau llythrennedd a rhifedd yn yr ysgolion cynradd hefyd fel bod yr amodau yr un fath i bawb pan fyddant yn dechrau ar eu haddysg uwchradd.  

Esboniodd, “Nid yw’n dderbyniol bod cymaint o ddisgyblion yn gadael yr ysgolion cynradd â lefelau llythrennedd isel.

“Er mwyn mynd i’r afael â’r diffygion hyn, cyhoeddwyd y Cynllun Llythrennedd Cenedlaethol gennym a dechreuwyd ymgynghori ar y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol a’r Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol.”

Dywedodd bod safonau addysgu yn hanfodol, a thrwy gyflwyno’r Gradd Meistr mewn Ymarfer Addysgol, maen nhw’n codi statws y proffesiwn.

Yn olaf, dywedodd Mr Andrews bod Llywodraeth Cymru hefyd yn defnyddio pob adnodd ariannol sydd ar gael er mwyn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau yn sgil amddifadedd.  

“Roedd cyflwyno Grant Amddifadedd Disgyblion yn ddatblygiad allweddol. Bydd tua £32.4 miliwn ar gael eleni a bydd yr holl arian yn cael ei roi i’r ysgolion yn uniongyrchol ar gyfer lleihau’r bwlch o ran cyraeddiadau.

“Mae’n rhaid i ni barhau i fynd i’r afael â thlodi drwy godi dyheadau, gwella safonau mewn addysg a gwella lefel sgiliau os ydym eisiau sicrhau bod ein pobl ifanc yn cael y cyfleoedd gorau posibl mewn bywyd.”

Roedd y Gweinidog yn siarad mewn cynhadledd ryngwladol dros dridiau, ‘A Child's World - Working Together for a Better Future,’ wedi’i anelu at wella arferion gwaith ymysg pobl broffesiynol ym maes addysg plant, hyfforddiant, gwaith cymdeithasol, gwaith gwirfoddol, llywodraeth ac academia. Cynhelir y gynhadledd ym Mhrifysgol Aberystwyth rhwng Mehefin 27 - 29.

Mae’r gynhadledd, a drefnwyd gan Brifysgol Aberystwyth, yn cynnwys cyfraniadau gan arbenigwyr o bedwar ban byd. Roedd y gwledydd a oedd yn cael eu cynrychioli yn cynnwys Lloegr, Awstralia, Canada, De Affrica, Belarws, yr Iseldiroedd, y Ffindir, Tsieina, Sweden, yr Iwerddon, Azerbaijan, Portiwgal, Seland Newydd, Groeg, yr Alban a Chymru.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi

Tagiau

Addysg a sgiliau 28 Mehefin 2012 Programme for Government - Education Programme for Government - Tackling Poverty Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i