Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Gwahoddiad i dendro ar gyfer darparu’r Rhaglen Hyfforddiant Ychwanegol i Raddedigion

Heddiw, mae’r Llywodraeth yn gwahodd sefydliadau i dendro ar gyfer darparu rhaglen a fydd yn recriwtio graddedigion eithriadol o alluog i weithio mewn ysgolion lle mae’r amgylchiadau’n anoddach na’r cyffredin. Bydd y graddedigion yn gweithio i leihau effaith tlodi ar gyraeddiadau addysgol.
Dydd Llun 16 Gorffennaf 2012

Cyhoeddodd y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, ei fwriad i gyflwyno’r fenter hon, sef y Rhaglen Hyfforddiant Ychwanegol i Raddedigion, fel rhan o’r ymdrechion i wella ysgolion/cyraeddiadau disgyblion trwy helpu pobl ifanc sydd o dan anfantais addysgol.  

Mae’r rhaglen yn benodol ar gyfer graddedigion dan hyfforddiant sy’n hynod o alluog ac sy’n meddu ar amryw o sgiliau, gan gynnwys sgiliau cyfathrebu o’r radd flaenaf, sgiliau arwain cryf, a’r gallu i weithio’n effeithiol i gael y maen i’r wal er gwaethaf yr anawsterau.

O dan y Rhaglen Hyfforddiant Ychwanegol, bydd y graddedigion yn cael eu cyflogi i ddilyn amserlen ysgafnach, oherwydd byddant ar yr un pryd yn dilyn rhaglen hyfforddi athrawon gymeradwy er mwyn bodloni’r Safonau angenrheidiol i ennill Statws Athro Cymwysedig.  

Mae’r rhaglen yn cynnwys cyfnod o hyfforddiant cyn cyflogi er mwyn rhoi’r cymorth ychwanegol y mae ei angen i fodloni holl ofynion y rhaglen.

Dywedodd Leighton Andrews:

“Bydd y cynllun pwysig hwn yn rhoi graddedigion o’r radd flaenaf mewn ysgolion i helpu pobl ifanc sydd dan anfantais addysgol, a hefyd i wella safonau’n gyffredinol.”

Y manyleb y tendr, sy’n cael ei hysbysebu ar GwerthwchiGymru. Bydd yn rhaid i’r ceisiadau a gyflwynir gan gontractwyr ddangos yn glir, gan ddarparu tystiolaeth, sut y byddai eu sefydliad yn bodloni holl elfennau’r Rhaglen Hyfforddiant Ychwanegol i Raddedigion, fel y’u nodir yn y ddogfen dendro. Yn ddelfrydol, bydd gan gontractwyr hanes o ddarparu rhaglenni hyfforddiant tebyg, a byddant yn gallu dangos eu llwyddiant yn hynny o beth.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 20 Awst 2012, a disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus gael y contract erbyn diwedd mis Medi 2012.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Gwefannau

Sell2Wales

Tagiau

Addysg a sgiliau 16 Gorffennaf 2012 Programme for Government - Education Programme for Government - Tackling Poverty Ysgolion Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i