Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Sefydlu Bwrdd Adfer ar Ynys Môn i wella gwasanaethau addysg

Ar ôl adroddiad beirniadol Estyn am wasanaethau addysg ar Ynys Môn, mae Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg, a Carl Sargeant, y Gweinidog Llywodraeth leol a Chymunedau, wedi rhyddhau datganiad ar y cyd heddiw yn cyhoeddi bod Bwrdd Adfer yn cael ei sefydlu yn yr awdurdod lleol hwnnw.
Dydd Mawrth 31 Gorffennaf 2012

Canfu tîm arolygu Estyn fod perfformiad gwasanaethau addysg yr awdurdod lleol yn anfoddhaol ar hyn o bryd ac roedd o’r farn mai anfoddhaol hefyd oedd rhagolygon yr awdurdod lleol o ran gwella. Mae Estyn o’r farn bod angen mesurau arbennig.

Dywedodd Leighton Andrews:

“Mae hwn yn adroddiad hynod ddamniol - does dim dwywaith am hynny. Mae’r gwasanaeth addysg yn yr awdurdod mewn sefyllfa annerbyniol ac mae angen gweithredu ar fyrder i fynd i’r afael â’r materion a godwyd.  

“Erbyn hyn, mae’n swyddogion yn gweithio’n agos gyda Chomisiynwyr Llywodraeth Cymru, Cyngor Sir Ynys Môn a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i sicrhau bod ateb priodol a phendant yn ei le cyn gynted ag y bo modd.”  

Dywedodd Carl Sargeant:

“Mae Cyngor Ynys Môn yn cael ei redeg eisoes gan Gomisiynwyr Llywodraeth Cymru. Fe’u penodwyd ym mis Mawrth 2011 i fynd i’r afael â methiannau sylfaenol o ran arweinyddiaeth gorfforaethol a llywodraethu. Mae angen i’r gwaith o adfer y gwasanaeth addysg fynd law yn llaw â’r gwaith adfer corfforaethol sy’n cael ei arwain gan y Comisiynwyr

“Rydyn ni’n falch bod pawb yn llwyr gefnogi’n dull o weithredu yn hyn o beth a’u bod wedi cyfrannu’n effeithiol at ddatblygu’r ateb hwnnw. Mae’n dda gweld bod arweinwyr gwleidyddol Cyngor Sir Ynys Môn, a’r swyddogion sy’n ei arwain, wedi derbyn canfyddiadau’r adroddiad yn llawn, wedi croesawu’r ffaith bod Bwrdd wedi’i benodi sydd â’r un amcanion â’r broses sy’n mynd rhagddi i adfer y sefyllfa llywodraethu corfforaethol, a’u bod wedi ymrwymo o’r dechrau i ymgysylltu’n effeithiol â’r Bwrdd er mwyn adfer y sefyllfa.”

Rôl y Bwrdd Adfer newydd fydd cefnogi a chynghori Comisiynwyr Llywodraeth Cymru a herio a chefnogi swyddogion ac aelodau’r Cyngor yng nghyswllt gwasanaethau addysg Ynys Môn.

Bydd un o uwch-swyddogion addysg Llywodraeth Cymru ac un o uwch-swyddogion addysg Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn aelodau o’r Bwrdd, ynghyd â Chadeirydd  a dau weithiwr addysg proffesiynol. Caiff manylion pellach am benodiadau eu cyhoeddi yn y man.

Bydd y Bwrdd yn adrodd yn uniongyrchol i’r Gweinidogion, gan ddarparu adroddiadau misol rheolaidd am y sefyllfa ddiweddaraf. Mae’n fwriad gan Lywodraeth Cymru fynd ati ymhen chwe mis i adolygu’r cynnydd y bydd y Bwrdd wedi’i wneud, a’r effaith y bydd wedi’i chael.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Gwefannau

Estyn

Tagiau

Addysg a sgiliau 31 Gorffennaf 2012 Ysgolion Y Gogledd
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i