Mae’r cynnig cyntaf yn ymwneud â diddymu Corfforaeth Addysg Uwch Prifysgol Fetropolitan Caerdydd a Chorfforaeth Addysg Uwch Prifysgol Cymru, Casnewydd, ac mae’r ail yn ymwneud â diddymu Corfforaeth Addysg Uwch Prifysgol Cymru, Casnewydd yn unig.
Bydd yr ymgynghoriad yn para am un wythnos ar bymtheg, a bydd yn rhoi cyfle i bawb sydd â diddordeb yn y mater hwn, gan gynnwys y staff a’r myfyrwyr, gyflwyno sylwadau am y cynigion.
Dywedodd Leighton Andrews:
“Ddydd Mawrth 17 Gorffennaf, dywedais wrth Gynulliad Cenedlaethol Cymru fy mod, ar ôl pwyso a mesur y dystiolaeth a oedd ger fy mron, yn credu ar hyn o bryd fod cynnig Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ar gyfer prifysgol fetropolitan gref yn y
De-ddwyrain yn un cadarn. Dw i wedi rhoi croeso yn barod i’r cyhoeddiad a wnaed gan Brifysgol Morgannwg a Phrifysgol Cymru, Casnewydd.“Dw i wedi dweud o’r blaen fy mod am weld system Addysg Uwch yng Nghymru sy’n manteisio i’r eithaf ar gryfderau’r sefydliadau unigol, ac sy’n osgoi cystadleuaeth ddiangen rhyngddyn nhw.
“Dw i o’r farn y gallai argymhellion Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ar gyfer y De-ddwyrain fod yn ffordd briodol ymlaen, a dyna’r opsiwn dw i’n ei ffafrio ar hyn o bryd. O dan yr opsiwn hwnnw, byddai un sefydliad yn canolbwyntio ar wneud gwaith ymchwil a’r llall yn brifysgol fetropolitan gref."











