Cafodd disgyblion Ysgol Gynradd Victoria, Ysgol Pontfadog ac Ysgol Rhiwabon gyfle i ddeall sut mae Cymru’n cael ei llywodraethu, gan edrych yn gyffredinol ar Lywodraeth Cymru a’r ffordd y mae’r sefydliad yn gweithio.
Hefyd cafwyd cyfle i glywed mwy am swyddfa Llywodraeth Cymru yng Nghyffordd Llandudno, sef yr adeilad mwyaf gwyrdd yn ystâd y Llywodraeth.
Bu disgyblion Ysgol Gynradd Victoria yn esgus bod yn rhan o Lywodraeth Cymru. Gofynnwyd iddynt pa adrannau oedd y pwysicaf yn eu barn hwy, a faint o arian fyddai’n cael ei roi i’r gwahanol bortffolios pe byddent mewn grym.
Rhannwyd disgyblion Blwyddyn 12 Ysgol Rhiwabon yn grwpiau gan roi portffolio gweinidogol penodol i bob grŵp. Gofynnwyd iddynt lunio maniffesto newydd ar gyfer y maes hwnnw, a’i gyflwyno i’w cyd-ddisgyblion. Sbardunwyd trafodaeth fywiog am amrywiol faterion.
Mae Llywodraeth Cymru’n croesawu ysgolion i’w swyddfa yng Nghyffordd Llandudno yn rheolaidd fel rhan o’i swyddogaeth yn cysylltu gyda’r gymuned.
Dywedodd y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews:
“Rwy’n falch iawn o glywed bod disgyblion o’r gogledd ddwyrain wedi teithio i’r adeilad yng Nghyffordd Llandudno i glywed am Lywodraeth Cymru. Mae’r adeilad yn adnodd addysg a gwybodaeth gwerthfawr i bobl o bob oed, o bob cwr o ogledd Cymru.
“Mae’n bwysig iawn i blant ysgol ddeall y materion y mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdanynt, ac effeithiau’r penderfyniadau sy’n cael eu gwneud ar eu bywydau. Mae’r adeilad yng Nghyffordd Llandudno yn cynnig y cyfle hwnnw.”
Dywedodd Pat Gooding, Cyfarwyddwr Astudiaethau 14 – 19/ Cydlynydd Bagloriaeth Cymru yn Ysgol Rhiwabon:
“Dyma’r ail dro i ni ymweld â Chyffordd Llandudno ac ar y ddau achlysur cafodd y myfyrwyr brofiad gwerthfawr tu hwnt a oedd yn gwella’u dealltwriaeth o wleidyddiaeth genedlaethol, sef un o’r elfennau sy’n cael eu hastudio ar gyfer Bagloriaeth Cymru.
“Roedd y gweithgareddau wedi’u trefnu’n dda ac yn ennyn diddordeb y myfyrwyr. Rydyn ni’n gobeithio ymweld gyda’n myfyrwyr Blwyddyn 12 yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf.”
Dywedodd John Hughes, Pennaeth Ysgol Gynradd Victoria:
“Roedd yn brofiad gwych i’r plant fedru deall yn iawn sut mae Llywodraeth Cymru’n gweithio.
“Byddwn yn sicr yn trefnu ymweliad arall â swyddfa Cyffordd Llandudno yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf.”











