Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Y Gweinidog yn lansio rhaglen o weithgareddau i godi safonau llythrennedd

Cyhoeddwyd heddiw raglen genedlaethol i godi safonau llythrennedd yn ein hysgolion gan y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews.
Dydd Iau 17 Mai 2012

Ceir yn y Rhaglen Llythrennedd Genedlaethol a gaiff ei lansio’n ffurfiol gan y Gweinidog yn Ysgol Cwm Garw ym Mhen-y-bont ar Ogwr y camau y bydd angen i Lywodraeth Cymru a’i phartneriaid eu cymryd er mwyn gweld safonau llythrennedd yn codi’n sylweddol dros y pum mlynedd nesaf.

Mae’r Rhaglen yn dwyn ynghyd nifer o fentrau allweddol i godi safonau a hefyd yn amlinellu’r hyn sydd angen ei wneud i gynorthwyo athrawon i roi hyn oll ar waith. Bydd y camau gweithredu’n canolbwyntio ar y pedair thema ganlynol:

  • Pennu disgwyliadau a safonau cenedlaethol
  • Mwy o gymorth a datblygiad
  • Ymyriadau mwy trylwyr wedi’u targedu’n benodol
  • Mwy o atebolrwydd a her.

Ymhlith y prif fentrau yn y Rhaglen y mae cymorth wedi’i dargedu i ddisgyblion, cymorth tuag at ddatblygiad proffesiynol athrawon; rhannu arferion da a’u defnyddio mewn modd sy’n gyson; fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol statudol; a datblygu profion darllen cenedlaethol.

Un o amcanion pwysicaf y Rhaglen Llythrennedd Genedlaethol yw cefnogi athrawon ym mhob pwnc ar draws pob cyfnod addysg i fod yn athrawon llythrennedd.

Yn rhan o’r rhaglen bydd gan athrawon y cyfle i wneud gwaith astudio ychwanegol wrth addysgu llythrennedd, gan gynnwys modiwl llythrennedd penodol ar gyfer y cymhwyster Gradd Meistr mewn Ymarfer Addysgol; dysgu oddi wrth athrawon sydd wedi rhagori ym maes llythrennedd ac a fydd y rhannu eu harbenigedd; a chymryd rhan yng ngweithgareddau Cymunedau Dysgu Proffesiynol.

Ceir yn y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol a gyhoeddir at ddibenion ymgynghori ym mis Mehefin, ganllaw hanfodol ar gyfer cynllunio’r cwricwlwm ar gyfer athrawon. Bydd hefyd yn amlinellu’r disgwyliadau blynyddol clir ar gyfer llythrennedd a rhifedd ar gyfer pob dysgwr rhwng 5 a 14 oed.

Bydd ysgolion cynradd ac uwchradd yn defnyddio’r Rhaglen Llythrennedd Genedlaethol i sicrhau bod y gwaith o addysgu sgiliau llythrennedd a rhifedd yn cael ei ymgorffori ym mhob pwnc ar draws y cwricwlwm. Bydd y Rhaglen hefyd yn caniatáu i athrawon fonitro cynnydd disgyblion yn unol â’r disgwyliadau ar gyfer llythrennedd erbyn diwedd y flwyddyn - gan helpu ysgolion i weld pa ffordd sydd oriau i herio a chefnogi pob un o’u dysgwyr.

Agwedd bwysig arall ar y rhaglen fydd cyflwyno profion darllen Saesneg a Chymraeg ar gyfer dysgwyr rhwng blwyddyn 2 a blwyddyn 9. Bydd y profion yn fodd i roi i athrawon, rhieni a gofalwyr ddarlun mwy cywir o allu disgybl i ddarllen drwy helpu i weld eu cryfderau a’u gwendidau unigol.

Wrth lansio’r Rhaglen yn Ysgol Cwm Garw lle mae’r athrawon wedi defnyddio nifer o gynlluniau i wella llythrennedd, dywedodd y Gweinidog:

"Mae gwella lefelau llythrennedd a rhifedd yn un o brif ymrwymiadau ein Rhaglen Lywodraethu. Does dim yn bwysicach na sicrhau bod gan ein pobl ifanc y sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i ddarllen, ysgrifennu a chyfathrebu.

"Mae enghreifftiau lu o waith addysgu a dysgu gwych ym maes llythrennedd ar draws Cymru. Mae Ysgol Cwm Garw eisoes yn arwain y ffordd drwy ddefnyddio dulliau addysgu gwahanol mewn ffordd sy’n llawn dychymyg ac mewn ffordd ddeallus.

"Mae’n rhaid i ni sicrhau y bydd pob un o’n dysgwyr yn elwa ar waith addysgu llythrennedd sy’n rhagorol a’u bod yn datblygu’r sgiliau sydd mor hanfodol i’w llwyddiant yn y dyfodol.

"Bydd y Rhaglen Llythrennedd Genedlaethol yn sicrhau mwy o gysondeb ac eglurder yn ein ffordd o dracio cynnydd disgyblion a hefyd yn sicrhau’r cymorth, yr her a’r atebolrwydd sydd eu hangen yn ein hysgolion ar yr un pryd."

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Rhaglen Lythrennedd Genedlaethol

Tagiau

Addysg a sgiliau 17 Mai 2012 Programme for Government - Education Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i