Dywedodd Ms Davidson fod 80 o'r 81 o ddyfroedd ymdrochi a brofwyd eleni (98.8%) wedi pasio'r safonau bacteria gorfodol a bennir gan y Gyfarwyddeb Dŵr Ymdrochi Ewropeaidd. Mae hyn yn gynnydd ar ffigur 97.5% yn 2007.
Roedd 62 o'r traethau eraill (76.5%) yn bodloni safonau llymach y Comisiwn Ewropeaidd, er gwaethaf haf arbennig o wlyb.
Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn ymchwilio i'r rhesymau dros y ffaith bod y dŵr ymdrochi yn Llandanwg yng Ngwynedd wedi methu'r safon ansawdd orfodol, ac yn ceisio dod o hyd i atebion i'r broblem. Fodd bynnag, mae'r tywydd gwael dros yr haf yn awgrymu mai dŵr arwyneb yn llifo o dir fferm ac ardaloedd trefol a lygrodd y dŵr ymdrochi.
Meddai Ms Davidson:
Er gwaethaf y tywydd gwlyb a welwyd dros yr haf, rwy'n falch bod bron pob traeth a brofwyd wedi bodloni'r safonau ansawdd dŵr gorfodol. Cyrhaeddodd mwy na thri chwarter ohonynt y safon canllaw uwch Ewropeaidd.
Bu cwymp bychan yn nifer y dyfroedd ymdrochi a fodlonodd y safon canllaw - 62 o'i gymharu â 69 yn 2007.
Ond rhaid edrych ar y canlyniadau hyn yng nghyd-destun y gwelliant cyffredinol a wnaed, yn enwedig mewn cyfnod o lawr trwm ym mhedwar o'r pum mis profi.
Gall glaw trwm wneud i fwy o lygredd lifo i ddyfroedd ymdrochi o ffynonellau amaethyddiaeth a threfol drwy systemau dŵr fel nentydd ac afonydd. Mae amgylchiadau cymylog hefyd yn effeithio ar ansawdd dŵr gan fod llai o olau uwchfioled, sy'n dinistrio rhywfaint o'r llygredd bacterol mewn dŵr.
Ond gyda'r amgylchiadau hyn eleni, mae'r canlyniadau'n dangos bod dyfroedd arfordirol Cymru'n cyrraedd y safonau ansawdd gorfodol. Mae hyn yn hanfodol i gefnogi'n cynefinoedd naturiol a darparu dŵr glân i bobl sy'n defnyddio'n traethau a'n harfordir at ddibenion hamdden.
Ychwanegodd Ms Davidson:
Mae dŵr hefyd yn bwysig i'r diwydiant hamdden a thwristiaeth, sy'n darparu miloedd o swyddi ac yn dod â llawer o ymwelwyr ac incwm i Gymru bob blwyddyn.
Mae'n debygol y bydd newid hinsawdd yn arwain at fwy o amgylchiadau stormus o'r fath. Byddaf yn parhau i chwilio am ffyrdd o helpu i ddelio â dŵr arwyneb ac yn gweithio gydag Asiantaeth yr Amgylchedd i wella ansawdd y dŵr yn amgylchedd naturiol Cymru a diogelu'r adnodd gwerthfawr hwn.
Meddai Chris Mills, Cyfarwyddwr Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru:
Mae angen i ni wneud mwy i wrthbwyso effaith dŵr ffo ar ein traethau yn sgil glaw trwm. Mae amcanion hirdymor sy'n gysylltiedig â newid hinsawdd yn awgrymu y dylem ddisgwyl mwy o hafau gwlyb yn y dyfodol.
Mae'n blaenoriaethau'n cynnwys gweithio gyda Dŵr Cymru i sicrhau ei fod yn parhau i fuddsoddi mewn gwelliannau amgylcheddol. Mae hyn yn cynnwys cynnal a chadw a gwella'r rhwydwaith carthffosiaeth a gweithfeydd triniaeth. Rydym hefyd wedi bod yn gweithio gyda'r diwydiant ffermio i gyfyngu ymhellach unrhyw ddŵr ffo o dir amaethyddol. Hefyd rydym yn canolbwyntio ar annog perchnogion tai a busnesau i chwilio am unrhyw gysylltiadau gwallus yn eu systemau draenio.
Drwy gydweithio gallwn wynebu'r her o gynnal a chadw a gwella ansawdd ein dyfroedd ymdrochi.
13 Tachwedd 2008











