Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Data incwm fferm 2007-08 : byd amaeth Cymru yn sefydlogi

Heddiw [Dydd Mercher 26 Tachwedd], croesawodd Elin Jones, y Gweinidog dros Faterion Gwledig, yr ystadegau ar incymau fferm yng Nghymru, a oedd yn dangos bod byd amaeth Cymru yn sefydlogi, a hynny’n enwedig ar gyfer y sector defaid.
Dydd Mercher 26 Tachwedd 2008

Dywedodd y Gweinidog:

Mae’r ystadegau ar Incymau fferm a gyhoeddwyd heddiw yn arwydd cadarnhaol bod y diwydiant yn ymateb yn frwd i’r heriau cystadleuol a hynny er gwaetha’r anawsterau a oedd yn gysylltiedig â 2007 gan gynnwys y cyfyngiadau ar fasnachu a osodwyd o ganlyniad i Glwy’r Traed a’r Genau yn Lloegr.

Amcangyfrifwyd bod incymau ffermwyr llaeth wedi cynyddu £51,300,  sy’n gynnydd o 68% o’i gymharu â llynedd. Mae’r ffigurau diweddaraf hyn yn adlewyrchu’r gwelliant ym mhris llaeth wrth gât y fferm.

Tua diwedd 2007 gwelwyd pwysau ar ffermwyr defaid wrth iddynt orfod wynebu prisiau llai a chostau uwch. Er gwaethaf hyn, mae incymau mewn Ardaloedd Llai Ffafriol yn dangos gwelliant mawr i £19,800. Mae hyn yn rhannol oherwydd y cymorth a roddwyd drwy law'r pecyn iawndal Clwy'r Traed a’r Genau a sicrhawyd yn dilyn trafodaethau rhwng Llywodraeth Cynulliad Cymru a’r Comisiwn Ewropeaidd.

Mae cynhyrchwyr cig eidion wedi elwa ar brisiau sefydlog ond nid yw hynny wedi atal incymau ffermydd Defaid a Gwartheg Llawr Gwlad rhag disgyn i £19,000, yn bennaf oherwydd cwymp mewn allbwn defaid.

26 Tachwedd 2008

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Ffermio a chefn gwlad

Tagiau

Yr amgylchedd a chefn gwlad 26 Tachwedd 2008
 
 

News by date

 
Mehefin 2013
M T W T F S S
<< Mai    
          1 2
3 4 5 6 7 8 9
10 11 12 13 14 15 16
17 18 19 20 21 22 23
24 25 26 27 28 29 30
Follow us on