Yn siarad yn ystod achlysur lansio’r adroddiad yn San Steffan, dywedodd Ms Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai:
Hoffwn groesawu’r adroddiad hynod arwyddocaol hwn. Mae’r adroddiad hwn yn gyfraniad pwysig i’r sylfaen dystiolaeth ar weithredu ynghylch y newid yn yr hinsawdd. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i’r Pwyllgor am eu gwaith, am fod yn drylwyr wrth baratoi’r adroddiad ac am eu harbenigedd. Byddwn yn mynd ati nawr i astudio’r adroddiad yn ofalus iawn i weld sut bydd y polisi’n effeithio ar Gymru, ac yn paratoi ein hymateb i’r Ysgrifennydd Gwladol.
Mae’r Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd, a ddaeth i rym yn ddiweddar, yn nodi y dylid ymgynghori â Llywodraeth y Cynulliad a’r gweinyddiaethau datganoledig eraill ynghylch gwneud penderfyniadau pwysig fel penderfynu ar y gyllideb ar gyfer materion yn ymwneud â gostwng lefelau carbon.
Mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae o safbwynt mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd ac mae datblygu’r Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd wedi bod yn enghraifft gadarnhaol iawn o weithio ar y cyd ar draws pob un o’r pedair gweinyddiaeth.
Mae’r newid yn yr hinsawdd yn sialens fawr i Gymru, i’r DU ac i’r byd. Mae’n fygythiad i bob un ohonom a dyw gwneud dim ddim yn opsiwn. Rwy’n benderfynol o sicrhau bod Cymru’n gwneud popeth yn ei gallu i leihau allyriadau ac i leihau ein hôl troed carbon.
Mae mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd yn un o flaenoriaethau pennaf Llywodraeth Cynulliad Cymru, a hynny fel ei bod yn gwneud ei rhan wrth ostwng allyriadau’r DU. Caiff hyn ei adlewyrchu yn ein hymrwymiad i geisio sicrhau gostyngiad o 3% bob blwyddyn o 2011 ymlaen mewn allyriadau carbon yn y meysydd hynny lle mae cymhwysedd wedi’i ddatganoli i ni.
Mae’r targed hwn wedi’i bennu er mwyn sicrhau ein bod yn llwyddo i leihau’r allyriadau o’r naill flwyddyn i’r llall ac er mwyn ceisio lleihau allyriadau’n gynnar hefyd. Bydd gostyngiadau cynnar yn hanfodol i’n cael ar y trywydd iawn o ran cyrraedd targedau hirdymor sy’n fwy uchelgeisiol. Os lwyddwn ni i leihau ein hallyriadau 3% bob blwyddyn, byddai hyny’n golygu hefyd y gallai Cymru ostwng ei hallyriadau carbon 80% cyn 2050.
1 December 2008











