Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Llywodraeth Cynulliad Cymru’n ymuno ag ymgyrch 10:10

Heddiw (dydd Mercher 2 Rhagfyr) cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, fod ystâd Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymuno ag ymgyrch 10:10 i leihau allyriadau tŷ gwydr yn ei hystadau.
Dydd Mercher 02 Rhagfyr 2009

Mae hyn yn golygu y bydd adeiladau ac eiddo yn ystâd Llywodraeth y Cynulliad nawr gyda’i gilydd yn anelu i dorri ar allyriadau 10% yn 2010. Bydd y sefydliad yn ceisio lleihau’r defnydd o drydan grid, y defnydd o danwydd ffosil a theithio. Bydd cyfarpar darllen mesuryddion awtomatig yn cael ei osod mewn 30 o swyddfeydd Llywodraeth y Cynulliad i fonitro perfformiad amgylcheddol.

Meddai Mr Morgan:

“Drwy ymuno â’r ymgyrch 10:10 mae ystadLlywodraeth Cynulliad Cymru’n rhoi neges gref am ein hymrwymiad i fynd i’r afael â newid hinsawdd. Mae’n golygu ein bod yn arwain drwy esiampl ac yn gwneud yn siŵr fod ein tŷ ni mewn trefn. Y llynedd fe wnaethom dorri ar allyriadau o’n swyddfeydd a’n gweithgareddau 4%, ond nawr rydym am fynd ymhellach ac arwain drwy esiampl gan anelu at wneud cymaint â phosibl o arbedion carbon ar draws ein hystâd. Mae’r camau hyn yn dda nid yn unig ar gyfer yr amgylchedd, ond yn gwneud synnwyr ariannol hefyd gan y byddant yn arbed arian i’r trethdalwyr.”

Meddai’r Gweinidog Amgylchedd Jane Davidson:

“Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi gosod targed uchelgeisiol o dorri i lawr ar allyriadau carbon 3% y flwyddyn o 2011 ymlaen mewn ardaloedd a reolir gennym, gan alluogi lleihad o 80% cyn 2050. Drwy sicrhau bod ein swyddfeydd a’n heiddo’n ymuno â’r ymgyrch 10:10 ychydig cyn y trafodaethau tyngedfennol yn Copenhagen, rydym yn dangos ein hymrwymiad i’r agenda hon. Byddwn yn annog pob rhan o’r sector cyhoeddus yng Nghymru i wneud yr un peth ac ymuno â’r ymgyrch hon a lleihau eu hallyriadau carbon.”

2 Rhagfyr 2009

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Newid hinsawdd

Tagiau

Yr amgylchedd a chefn gwlad 02 Rhagfyr 2009
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mehefin 2013
Ll M M I G S S
<< Mai    
          1 2
3 4 5 6 7 8 9
10 11 12 13 14 15 16
17 18 19 20 21 22 23
24 25 26 27 28 29 30
I'n dilyn ni trowch i