Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Rhaid i gytundeb terfynol Copenhagen gynnwys llywodraethau rhanbarthol, meddai’r Gweinidog dros yr Amgylchedd

Wrth i’r wythnos gyntaf o drafodaethau ynglŷn â’r newid yn yr hinsawdd ddod i ben yn Copenhagen, dywedodd Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, fod yn rhaid i lywodraethau rhanbarthol gael eu cynnwys mewn unrhyw gytundeb newydd.
Dydd Iau 10 Rhagfyr 2009

Mae’r Gweinidog yn cynrychioli Cymru yn y trafodaethau, yn ogystal â rhanbarthau o bob rhan o’r byd fel rhan o’i swyddogaeth fel Cydgadeirydd Rhwydwaith y Llywodraethau Rhanbarthol dros Ddatblygu Cynaliadwy (nrg4SD). Mae’r grŵp hwn yn pwysleisio rôl llywodraethau rhanbarthol mewn datblygu cynaliadwy.

Meddai Ms Davidson:

“Rhaid i unrhyw gytundeb newydd a drafodir yn y ddinas hon yn y dyddiau nesaf gydnabod y rhan y mae llywodraethau rhanbarthol ac is-genedlaethol, fel Llywodraeth y Cynulliad, yn ei chwarae wrth fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.


“Bydd llywodraethau rhanbarthol fel ein llywodraeth ni yn hollbwysig wrth ymdrin â’r newid yn yr hinsawdd ar lawr gwlad. Rydw i am weld y cytundeb terfynol yn cyfeirio’n benodol at hyn, ac yn cydnabod y rhan rydyn ni’n ei chwarae.  Rydw i wedi ysgrifennu at Ed Milliband, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ynni a Newid Hinsawdd, er mwyn esbonio ein safbwynt, ac fe wnaeth ei ymateb gadarnhau bod Llywodraeth y DU yn gwbl gefnogol iddo.”

Mae Cymru eisoes yn chwarae ei rhan drwy ei hymrwymiad i ryddhau 3% yn llai o allyriadau’r flwyddyn o 2011 ymlaen, gan arwain at ostyngiad o 80% cyn 2050.

Mae Llywodraeth y Cynulliad hefyd wedi cyhoeddi ei bod wedi ymuno ag ymgyrch 10:10 i ryddhau 10% yn llai o allyriadau tŷ gwydr o’i hadeiladau, ei heiddo a’i gweithgareddau.

10 Rhagfyr 2009

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Newid hinsawdd

Tagiau

Yr amgylchedd a chefn gwlad 10 Rhagfyr 2009
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i