Bydd cynllun Arbed, fydd yn diweddaru effeithlonrwydd ynni y stoc dai bresennol yn rhai o rannau mwyaf difreintiedig y wlad, hefyd yn rhoi hwb i swyddi, sgiliau a’r broses adfywio. Mae’r cyllid o £30 miliwn i brosiectau fu’n llwyddiannus yn rownd gyntaf y cynllun.
Bydd cynllun effeithlonrwydd ynni a chreu swyddi arloesol Llywodraeth Cynulliad Cymru yn:
- Gwella effeithlonrwydd ynni mewn 6,000 o gartrefi erbyn mis Mawrth 2011, gan nid yn unig Arbed arian i bobl, ond hefyd ostwng allyriadau carbon yn ein ymrwymiad parhaus i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd
- Rhoi hwb i’r economi trwy ddarparu contractau i gwmnïau lleol, a hyrwyddo’r diwydiant effeithlonrwydd ynni ac ynni adnewyddadwy yng Nghymru
- Creu swyddi gwyrdd newydd a chyfleodd hyfforddi – bydd cwmnïau sy’n llwyddiannus wrth gynnig am swyddi trwy gyllid Arbed yn derbyn contract i gyflogi’n lleol, a darparu 156 o ddyddiau o hyfforddi am bob £1 miliwn o arian y Llywodraeth
- Galluogi busnesau a chontractwyr bach a chanolig i ennill cymwysterau ychwanegol lle y bo angen
- Bydd y dull arloesol o gael cartrefi’n fwy gwyrdd a sefydlu cadwyn gyflenwi newydd, gydgysylltiedig, gynaliadwy yn rhoi manteision economaidd, addysgol, cymdeithasol ac ym maes ynni adnewyddadwy i Gymru.
Nid oes unrhyw gynllun arall yn y DU ar y raddfa hon wedi defnyddio dull sy’n cwmpasu cymaint wrth wella’r stoc dai bresennol.
Wrth siarad ym mhentref Markham yng Nghaerffili, ym Mharth Carbon Isel Blaenau’r Cymoedd, lle mae’r gwaith o osod paneli solar ac insiwleiddio waliau allanol yn dechrau heddiw (dydd Llun 17 Mai), dywedodd Jane Davidson, Gweinidog yr Amgylchedd:
“Mae Cymru’n arwain y DU gyda’r cynllun arloesol hwn, sy’n canolbwyntio ar effeithlonrwydd ynni. Ond mae’n hollol gynaliadwy, gan y byddwn yn lleihau costau tanwydd ac yn helpu’r rhai hynny sydd â’r angen mwyaf, ac sy’n dioddef tlodi tanwydd, ac yn gwneud creu swyddi lleol a hyfforddi’n rhan allweddol o’r cynlluniau.
“Ar ddechrau Wythnos Cynaliadwyedd, dengys hyn sut y gall Llywodraeth y Cynulliad gydgysylltu effeithlonrwydd ynni, a chamau economaidd a chymdeithasol i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.
“Rwyf wedi ymrwymo i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, ac mae Arbed yn dangos ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad i gymryd camau ymarferol i helpu preswylwyr Cymru. Y newid yn yr hinsawdd yw’r bygythiad mwyaf sy’n wynebu’r byd, a bydd gwneud cartrefi’n fwy effeithlon yn eu defnydd o ynni yn lleihau ôl troed carbon Cymru, gan bod y defnydd uniongyrchol ac anuniongyrchol o ynni o adeiladau yn creu oddeutu 40% o holl allyriadau carbon y DU. Bydd hefyd yn helpu Cymru i gyrraedd ei tharged o 3% o ostyngiad y flwyddyn mewn allyriadau o 2011 ymlaen.”
Meddai Ms Jocelyn Davies AC, y Gweinidog Tai ac Adfywio:
“Mae gwella cartrefi pobl yn hanfodol wrth adfywio cymunedau. Rwyf wrth fy modd yn gweld y cynllun hwn ar waith, fydd yn cael effaith gwirioneddol ar fywydau pobl sy’n rhan o gam cyntaf Arbed, y rhai sy’n cael cartrefi sy’n defnyddio ynni’n fwy effeithlon, neu’r rhai sy’n cyfrannu tuag at gyflawni’r gwelliannau.
“Mae Arbed yn berthnasol i’n cred bod tai yn llawer mwy na brics a morter. Mae gwella tai yn golygu gwella bywydau a chymunedau, ac yn dod ag ystod eang o fanteision, gan gynnig cyfleoedd newydd i bobl, a mynd i’r afael â thlodi ac anghydraddoldebau.
“Mae darparwyr tai cymdeithasol yn cyflawni cam cyntaf rhaglen Arbed ar ran Llywodraeth y Cynulliad, gyda brwdfrydedd gwirioneddol. Maent yn arloesol yn y dull y maent yn cefnogi cartrefi yn y sector cymdeithasol yn ogystal â’r sector preifat, i sicrhau bod prosiectau Arbed yn seiliedig yn y gymuned.”
Bydd cam cyntaf Arbed yn golygu y caiff £2.5 miliwn ar gyfartaledd ei wario bob mis y flwyddyn hon i insiwleiddio waliau allanol, gosod paneli solar a phympiau gwres fydd yn golygu defnyddio ynni’n fwy effeithlon, mewn o leiaf 21 o gynlluniau ar draws ardaloedd adfywio Cymru.
Ymysg y cynlluniau mae:
- Prosiect insiwleiddio waliau allanol ym Môn a Menai, ble y mae trydanwyr lleol mewn economi leol sy’n wynebu anawsterau yn cael eu hyfforddi i osod dull o wresogi solar
- Y prosiect amldechnoleg ym Markham, Caerffili, sy’n cael ei gyflwni gan Charter Housing trwy grant Arbed Llywodraeth y Cynulliad, fydd yn golygu bod pobl leol yn cael eu hyfforddi fel cynghorwyr ynni yn eu cymuned eu hunain
- Prosiect sylweddol i insiwleiddio waliau allanol yn Abertawe, sy’n golygu bod pump o ddarparwyr tai cymdeithasol yn cydweithio i wella cartrefi pobl leol o fewn ardal fwyaf difreintiedig Cymru.
Bydd o leiaf 6,000 o gartrefi yn gweld manteision Arbed erbyn mis Mawrth 2011. Gyda Chynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref a Chynllun Sgrapio Boeleri Llywodraeth y Cynulliad, mae cyfanswm o 25,000 o gartrefi Cymru yn cael eu gwella a’u gwneud yn rhatach i’w gwresogi yn 2010-11.
Mae hwn yn sbardun mawr i swyddi’r sector preifat yng Nghymru ar adeg pan mae pobl yn chwilio am swyddi eraill neu swyddi newydd. Mae hwn yn sector llafurddwys, gyda’r fantais ychwanegol ein bod hefyd yn cyflawni ar uchelgeisiau yn gysylltiedig â thai, tlodi tanwydd a’r newid yn yr hinsawdd.
Mae’r ffaith bod y diwydiant effeithlonrwydd ynni ac ynni adnewyddadwy yn cael eu sbarduno yng Nghymru yn hynod bwysig i’r economi – ac yn ehangu sector preifat Cymru.
Mae Arbed yn rhan allweddol o Barth Carbon Isel Blaenau’r Cymoedd Llywodraeth y Cynulliad yn Ne Cymru, ble y mae’n datblygu diwydiant effeithlonrwydd ynni ac ynni adnewyddadwy mawr i yrru Cymru allan o’r dirwasgiad. Mae’r 21 o gynlluniau’n cael eu rhoi ar waith ar draws Ardaloedd Adfywio yng Ngorllewin, Canolbarth a Gogledd Cymru.
Bydd y cyllid yn buddsoddi ym mherfformiad ynni yng nghartrefi Cymru trwy ddarparwyr tai cymdeithasol, gyda’r mesurau mwyaf priodol a mwyaf cost-effeithiol yn cael eu cynnig i gartrefi bregus.
Mae Llywodraeth y Cynulliad am greu a chynnal marchnadoedd o fàs critigol digonol i greu swyddi, i ddenu buddsoddiad i Gymru ac i ysgogi twf yn y busnesau effeithlonrwydd ynni ac ynni adnewyddadwy. Mae Arbed yn ceisio sicrhau manteision economaidd yn ogystal ac amgylcheddol a chymdeithasol, ac mae’r rhaglen ar raddfa mor fawr fel y bydd o fudd i nifer o gwmnïau – mawr a bach.
Meddai Helen Northmore, Pennaeth Ymddiriedolaeth Arbed Ynni Cymru:
“Mae Cymru yn arwain y ffordd ar yr agenda, a dyma’r cynllun mwyaf, mwyaf uchelgeisiol o’i fath sydd eisoes ar y gweill yr wyf yn ymwybodol ohono. Wrth drin y cartrefi anoddaf yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru, bydd rhaglen Arbed yn lleihau tlodi tanwydd yn sylweddol, ac yn hybu’r broses adfywio yng Nghymru.”
Meddai Nigel Draper, sy’n cynrychioli Tai Cymunedol Cymru ar y grŵp cyd-gysylltu:
"Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio â Llywodraeth Cynulliad Cymru i gyflawni cam un y prosiect hwn. Mae oddeutu 70% o denantiaid tai cymdeithasol wedi’u heithrio’n ariannol, felly rydym yn croesawu’r hwb £30 miliwn hwn, fydd nid yn unig yn arbed cannoedd o bunnoedd i’n tenantiaid mewn biliau ynni, ond hefyd yn datblygu swyddi gwyrdd ym maes ynni adnewyddadwy, yn lleihau tlodi tanwydd ac yn lleihau ein hôl troed carbon.”
Meddai Charles Gallagher, Cyfarwyddwr Ofgem dros yr Alban, Cymru a'r Rhanbarthau:
"Rydym yn llongyfarch Llywodraeth Cynulliad Cymru ar lansio’r rhaglen uchelgeisiol hon i helpu defnyddwyr ynni mewn ardaloedd difreintiedig. Mae defnyddio llai o ynni trwy wella effeithlonrwydd ynni yn ddull effeithiol a phwysig o wella sefyllfa y rhai hynny sy’n dioddef tlodi tanwydd.
"Rydym yn edrych ymlaen at weld y rhaglen yn datblygu, a byddwn yn cydweithio â Llywodraeth y Cynulliad ar unrhyw agweddau fydd o fewn ein cylch gwaith.”











