Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Milfeddygon a ffermwyr yn cydweithio i fynd i’r afael â TB gwartheg

Mae ymweliadau dilynol i roi cyngor i geidwaid gwartheg ar sut y gallant wella bioddiogelwch ar eu ffermydd yn cael eu cynnig yn yr Ardal Triniaeth Ddwys TB gwartheg yng ngorllewin Cymru.
Dydd Iau 14 Hydref 2010

Dyma’r ail flwyddyn i’r ymweliadau hyn, sydd wedi’u hariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, gael eu cynnig fel rhan o’r ymdrechion i fynd i’r afael â TB gwartheg yn yr Ardal Triniaeth Ddwys.  Eleni, mae’r cynnig o ymweliadau wedi’u hymestyn i ffermwyr sydd ag eiddo ychydig y tu allan i ffiniau’r ardal gweithredu dwys, ble y bwriedir cynllunio dull cynhwysfawr o fynd i’r afael â Dileu TB.  

Mae ceidwaid gwartheg cymwys wedi derbyn llythyr i’w hysbysu y bydd rhywun yn cysylltu â hwy dros yr hydref a’r gaeaf i drefnu apwyntiad i adolygu ac asesu eu harferion bioddiogelwch.  Milfeddygon y ffermwyr fydd yn ymweld.  

Mae gwella bioddiogelwch yn hanfodol i ddiogelu buchesi  rhag TB gwartheg trwy gyfyngu ar gyfleoedd i heintiau gael eu trosglwyddo rhwng gwartheg, a rhwng bywyd gwyllt a gwartheg.  

Meddai Dr. Christianne Glossop, Prif Swyddog Milfeddygol Cymru:  

“Mae bioddiogelwch yn agwedd bwysig o’n dull cynhwysfawr o fynd i’r afael â TB gwartheg.  Y llynedd, roedd pob un o’r ffermwyr gafodd gynnig ymweliadau wedi’u derbyn, a chafodd y cynnig ei ymestyn i ffermwyr oedd ychydig y tu allan i ffin yr Ardal Gweithredu Dwys.  

"Hoffwn annog ceidwaid gwartheg i dderbyn y cynnig o ymweliad.  Nid yw’n costio dim ond eich amser, a bydd yn helpu i leihau’r risg o gyflwyno heintiau i’ch buches.”  

Meddai Robert Price-Jones, un o’r milfeddygon lleol fydd yn gwneud yr ymweliadau:
 
"Mae’r ymweliadau hyn yn gyfle da i mi fel milfeddyg eistedd i lawr gyda’m cleient i dreulio amser penodol yn ail-werthuso  arferion presennol.  Mae’n bwysig iawn bod ceidwaid gwartheg yn ystyried y camau ymarferol y gallant eu cymryd i ddiogelu eu buchesi a’u busnes.  

"Nid oes gwarant y bydd bioddiogelwch yn sicrhau na fydd y fuches yn cael ei heintio gan TB, ond mae cadw’r clefyd allan yn ei gwneud yn fwy tebygol y bydd y fuches cadw’n iach, ac yn parhau i fod yn iach.”  

Yn dilyn pob ymweliad, bydd cynllun gweithredu wedi’i deilwra yn cael ei baratoi ar gyfer pob ceidwad gwartheg, gan gynnig canllawiau ar fesurau i leihau’r risg o TB gwartheg ar ffermydd unigol, trwy ddiogelu eu buchesi rhag cael eu heintio gan wartheg a bywyd gwyllt arall.  I ffermwyr gafodd ymweliad y llynedd, bydd ymweliad eleni yn rhoi cyfle i adolygu’r cynllun hwnnw, ac i adeiladu arno.  

Roedd yr argymhellion oedd yn dilyn ymweliadau llynedd yn cynnwys cyfyngu ar y cysylltiad rhwng anifeiliaid trwy:  

  • Wneud llety gwartheg a storfeydd bwyd yn ddiogel rhag moch daear;
  • Defnyddio cafnau gydag ochrau ar oleddf a’u codi o leiaf 3 troedfedd o’r llawr;
  • Pori da byw nad ydynt yn debygol o gael yr haint ar feysydd ble mae moch daear yn bresennol.  

Mae mesurau i reoli clefydau gwartheg yn well, gan gynnwys profi gwartheg am TB bob chwe mis, a chyfyngu symudiadau i mewn ac allan o’r Ardal Gweithredu Dwys wedi’i sefydlu ers 1 Mai.  

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru hefyd yn cynnal dau ymgynghoriad cyhoeddus ar hyn o bryd ar TB.  Mae un yn gysylltiedig â TB mewn geifr, camelidau a cheirw ledled Cymru.  Mae’r llall yn gysylltiedig â Gorchymyn yn caniatáu i Lywodraeth Cynulliad Cymru ladd moch daear yn yr Ardal Gweithredu Dwys.  

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

TB mewn gwartheg

Tagiau

Yr amgylchedd a chefn gwlad 14 Hydref 2010 TB Gwartheg Y Canolbarth Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i