Bydd yr arian ychwanegol, a gaiff ei wario yn ystod y flwyddyn ariannol hon, yn helpu i sicrhau bod eiddo a lleoliadau ledled Cymru mewn sefyllfa lawer gwell i ymdopi ag effaith bosibl llifogydd.
Caiff manylion y cynlluniau a fydd yn elwa ar yr arian ychwanegol eu cyhoeddi cyn bo hir.
Wrth siarad am yr arian ychwanegol, dywedodd y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Jane Davidson:
"Mae sicrhau bod Cymru'n lle mwy cynaliadwy yn parhau i fod yn un o'n heriau mawr.
"Mae'n hanfodol mynd i'r afael â pherygl llifogydd a buddsoddi yn y dulliau iawn o ddatrys problemau lleol.
"Dw i wedi gweld drosof i fy hun yr effaith ofnadwy y gall llifogydd ei chael ar gymunedau. Dyna pam dw i'n falch ein bod ni wedi llwyddo i ddarparu arian newydd i reoli perygl llifogydd, er gwaethaf y dirywiad economaidd sydd ohoni, er mwyn helpu i roi gwybodaeth i bobl a chymunedau a'u hamddiffyn.
"Yn y flwyddyn newydd, dw i'n disgwyl gallu cyhoeddi'r prosiectau a fydd yn cael arian."
Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn buddsoddi £43m mewn prosiectau rheoli llifogydd yng Nghymru yn ogystal â'r arian a gafodd ei gyhoeddi heddiw a'r rhaglen Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd.
Yn gynharach eleni, ymgynghorodd Llywodraeth Cynulliad Cymru ar ei strategaeth rheoli perygl llifogydd ac mae’n disgwyl cyhoeddi ei strategaeth newydd cyn diwedd y Cynulliad hwn.
Roedd yr ymgynghoriad ar y Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru yn gofyn am farn pobl ynglŷn â'r pedwar amcan arfaethedig:
- lleihau effeithiau llifogydd ac erydu arfordirol ar unigolion, cymunedau a busnesau;
- codi ymwybyddiaeth pobl o berygl llifogydd ac erydu arfordirol ac ennyn eu diddordeb mewn ymateb i’r perygl hwnnw;
- cynnig ymateb effeithiol a chyson i lifogydd ac erydu arfordirol;
- rhoi blaenoriaeth i'r cymunedau hynny sydd fwyaf mewn perygl wrth fuddsoddi.











