Er i sawl problem godi yn ystod y trafodaethau, mae’r 190 o wledydd oedd yn bresennol yn yr Uwchgynhadledd wedi cyrraedd cytundeb i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd yn fyd-eang, ac wedi cydnabod pwysigrwydd cysylltu â llywodraethau rhanbarthol.
Fel rhan o’r fargen, sefydlwyd Cronfa Hinsawdd Werdd, fydd yn golygu y bydd arian o’r gorllewin yn cael ei roi i genhedloedd sy’n datblygu, i’w hamddiffyn rhag effeithiau’r newid yn yr hinsawdd, ac i’w cynorthwyo yn eu datblygiadau carbon isel.
Cytunwyd a chydnabuwyd yn ffurfiol hefyd nad yw’r addunedau presennol ynghylch allyriadau yn ddigon uchel, a bod angen gostwng mwy ar allyriadau.
Fodd bynnag, methodd y trafodaethau â phenderfynu ar statws cyfreithiol unrhyw gytundeb byd-eang newydd.
Wrth siarad o Cancun, ble oedd y Gweinidog yn cynrychioli buddiannau Llywodraeth Cynulliad Cymru, dywedodd Mrs Davidson:
“Dwi’n croesawu’n gynnes y fargen a gafwyd.
“Roedd ambell gyfnod anodd yn ystod y trafodaethau, ond gwnaeth Ban Ki-Moon hi’n amlwg ar ddechrau’r broses na ddylai’r cynadleddwyr ddisgwyl perffeithrwydd, pan ddywedodd ‘peidiwch â gadael i’r perffaith fynd yn elyn y da’ a chafwyd ymateb i’r her.
"Mae Cymru’n arbennig o falch bod ein hymdrechion i gydnabod yn ffurfiol swyddogaeth llywodraethau rhanbarthol a lleol yn llwyddiannus, ac y gallwn adeiladu ar y gydnabyddiaeth hon yn y cyfnod hyd at y gynhadledd yn Ne Affrica y flwyddyn nesaf.“Roedd yn wych gweld gwledydd fu’n gyndyn ar y cychwyn, yn cael eu canmol pan gafwyd ymrwymiadau ganddynt oedd yn ei gwneud yn bosib inni daro ar y fargen hon.
“Mae’n deyrnged i Lywodraeth Mecsico am ei gwaith o greu proses mor dryloyw a chynhwysol, sydd wedi llwyddo i gynnwys yn y fargen hon y Maldives, sydd mewn perygl dybryd o’r newid yn yr hinsawdd; Lesotho, gwlad sy’n ffrind i Gymru, ac sy’n cydlynu’r gwledydd lleiaf datblygedig yn y byd, ac UDA, yn ogystal â nifer o rai eraill.
Roedd cynrychiolaeth dda iawn o lywodraethau rhanbarthol fel Cymru yn Cancun eleni, gan ddangos bod gweithredu byd-eang yn digwydd eisoes.
Ychwanegodd y Gweinidog:
“Pan mae’r Cenhedloedd Unedig yn amcangyfrif bod angen i rhwng 50 y cant ac 80 y cant o’r gweithredu gael ei wneud ar lefel is na lefel gwladwriaeth, mae ein mewnbwn ni ac eraill yn dangos bod bygythiad y newid yn yr hinsawdd yn creu cyfleoedd economaidd newydd trwy’r chwyldro carbon isel.
"Roedd ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad i leihau allyriadau 3 y cant y flwyddyn i gyrraedd 40 y cant erbyn 2020 yn cael ei ystyried yn batrwm i wledydd eraill, ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio â gwladwriaethau a thaleithiau blaengar eraill ledled y byd i gyflawni’r ymrwymiad hwnnw, gan greu swyddi gwyrdd yn y broses.
“Roedd yn amlwg bod trafodaethau y llynedd yn Copenhagen wedi methu â chyrraedd y fargen yr oeddem yn ceisio’i chael. Fodd bynnag, bydd y trafodaethau hyn, sydd wedi’u cynnal i ffwrdd o lygad y cyhoedd, gan gyd-daro â chanfyddiadau NASA mai 2010 oedd y flwyddyn boethaf i’w chofnodi erioed, yn cefnogi proses y Cenhedloedd Unedig.
“Mae’n amlwg bod llawer o waith i’w wneud cyn inni gyrraedd y fargen gyfreithiol sydd ei hangen, ond wedi cannoedd o oriau o drafodaethau a miloedd o gwpanau coffi, mae’r byd yn lle mwy diogel.”











