Yn flaenorol cyhoeddodd y Gweinidog, fel rhan o’r trefniadau trawsnewidiol ar gyfer Glastir, y byddai Llywodraeth Cynulliad Cymru yn talu ffermwyr 90% o’u cais Tir Mynydd 2010. Byddai hwn trwy daliad o 60% yn 2012 a 30% yn 2013.
Yn ystod cyfarfod gyda’r undebau ffermwyr ddoe (dydd Mercher, 15 Rhagfyr), cyhoeddodd y Gweinidog ei bod hi wedi penderfynu y bydd pob ffermwr Tir Mynydd sy’n gymwys, yn derbyn 100% o’r gyfradd taliad am bob hectar cymwys yn 2012. Bydd hwn yn cynnwys ffermwyr sy’n ymuno â Glastir yn 2012. Ni fydd mwy o daliadau Tir Mynydd ar ôl hyn.
Bydd y newid yma yn arwain at daliad ychwanegol o tua £2.5m i ffermwyr Tir Mynydd â’r diwydiant.
Wrth gyhoeddi’r penderfyniad, meddai’r Gweinidog dros Faterion Gwledig, Elin Jones:
“Rwyf wedi bod yn glir yn fy mhenderfyniad i sicrhau fod y trawsnewid i Glastir yn cael eu wneud mor syml â phosibl i ffermwyr.
“Rwy’n cydnabod fod Glastir yn nodi cyfnod sylweddol o newid. Mae’r cyhoeddiad rwy’n gwneud heddiw yn sicrhau sefydlogrwydd ychwanegol i ffermwyr yng Nghymru yn 2012 wrth i ni symud ymlaen i weithredu Glastir yn llawn.”











