Sefydlwyd y wobr flynyddol hon i gydnabod cyfraniad y diweddar Brynle Williams, cyn Aelod Cynulliad y Gogledd, i amaethyddiaeth Cymru fel AC ac fel ffermwr.
Bydd hefyd yn dathlu llwyddiant ffermwyr ifanc sydd wedi derbyn cymorth fel rhan o Gynllun Cymorth Newydd-ddyfodiaid Llywodraeth Cymru.
Wrth gyhoeddi’r enillydd yn Sioe Frenhinol Cymru gyda Mary Williams, gweddw’r diweddar Brynle Williams, dywedodd y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth Alun Davies,
“Rwy’n gwybod faint roedd Brynle yn mwynhau’r Sioe a’r fraint o gael cais i feirniadu Pencampwriaeth ‘Supreme In Hand’ a Rhagbrofion ‘Cuddy Supreme’ y llynedd.
“Mae’n briodol felly ein bod yn nodi ymrwymiad Brynle heddiw drwy gyhoeddi enillydd cyntaf Gwobr Goffa Brynle Williams.
“Roedd y ffermwyr yn y rownd derfynol i gyd yn rhan o Gynllun Cymorth Newydd-ddyfodiaid Llywodraeth Cymru ac roedd safon y ceisiadau yn uchel iawn.
“Mae’r enillydd, Aled Llŷr Thomas, eisoes yn gwneud ei farc yn y cylchoedd bridio defaid, gyda’i stoc bridio yn ennill nifer o wobrau mewn Sioeau Sir ar draws y wlad. Diolch i’r Cynllun Cymorth mae Aled wedi gallu codi sied ddefaid newydd sy’n golygu y bydd lle i 100 yn fwy o famogiaid (o 75 i 175) dros y blynyddoedd nesaf.
“Dyma’r math o entrepreneur ifanc rydyn ni eisiau’i weld yn ffynnu ac yn llwyddo yn niwydiant ffermio Cymru. Drwy gefnogi ffermwyr ifanc drwy’r Cynllun Cymorth Newydd-ddyfodiaid, gallwn ni sicrhau dyfodol cryf i ffermio yng Nghymru.
“Rwy’n gobeithio y bydd y wobr hon yn ffordd deilwng o goffáu Brynle a’i gariad at y Gymru wledig. Rwy’n gwybod y byddai’n cytuno bod Aled yn enillydd teilwng iawn.”











